Dim refferendwm adeg etholiad y Cynulliad
- Cyhoeddwyd

Ni fydd y refferendwm ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd nawr yn cael ei gynnal ar 5 Mai 2016, medd llywodraeth San Steffan.
Yn y senedd nos Lun fe gafodd gwelliant i'r mesur refferendwm ei gynnig sy'n golygu na fydd y bleidlais yn digwydd ar y diwrnod hwnnw, sef diwrnod etholiadau'r Cynulliad, Senedd yr Alban a chynulliad Gogledd Iwerddon.
Yn ôl llefarydd ar ran Downing Street, roedd y newid yn gyfaddawd i ateb pryderon aelodau seneddol.
Ond mae nifer o wleidyddion yng Nghymru hefyd wedi lleisio pryderon am gynnal y ddwy bleidlais ar yr un diwrnod, gan gynnwys y prif weinidog Carwyn Jones ac arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood.
Fore Mawrth fe ddywedodd Carwyn Jones ar ei gyfrif Twitter fod y newid yn un "synhwyrol".
Roedd rhai o ymgynghorwyr David Cameron wedi dadlau y gallai cynnal y ddwy bleidlais ar yr un diwrnod arwain at gynyddu nifer y bobl fyddai'n bwrw'u pleidlais mewn ardaloedd sy'n frwd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Yn ystod y trafodaethau nos Lun, fe ddywedodd Mr Cameron hefyd y bydd yn ystyried y cyfnod neilltuo cyn y refferendwm - y cyfnod o 28 diwrnod sy'n gwahardd gweinidogion, adrannau'r llywodraeth na chynghorau rhag cyhoeddi deunydd sy'n ymwneud â'r cwestiwn dan sylw yn y refferendwm.
Bydd y mesur refferendwm nawr yn parhau ar ei daith drwy'r senedd, a dydd Mawrth bydd yn dechrau cael ei drafod gan Dŷ'r Cyffredin.
Straeon perthnasol
- 8 Mehefin 2015
- 6 Mehefin 2015
- 2 Mehefin 2015
- 27 Chwefror 2015