Airbus: 'Dim bwriad gadael Cymru'
- Cyhoeddwyd

Mae prif weithredwr cwmni awyrennau Airbus, Fabrice Bregier, wedi dweud wrth y BBC nad oes ganddo "unrhyw fwriad" o dynnu gweithgynhyrchu o Brydain pe bai'r DU yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Ym mis Mai roedd pennaeth y cwmni ym Mhrydain, Paul Kahn, wedi dweud y byddai Airbus yn ailystyried buddsoddiad ym Mhrydain yn y dyfodol pe bai pleidlais i adael yr UE.
Wrth siarad yn sioe awyr Paris nos Lun, dywedodd Mr Bregier ei fod yn ymroddedig i'r 10,000 o weithwyr sydd gan Airbus yn y DU - gan gynnwys 6,000 yng Nghymru - ac nad oedd ganddo fwriad adleoli'r gweithgareddau sy'n cael eu gwneud gan ffatrïoedd Prydain.
Fodd bynnag fe ychwanegodd Mr Bregier y byddai'n rhaid iddo wneud penderfyniadau am ba mor gystadleuol fyddai'r busnes y sgil pleidlais i adael Ewrop.
Airbus yw ail gynhyrchydd awyrennau mwyaf y byd ar ôl Boeing, gan gyflogi 16,000 o bobl ym Mhrydain.
O'r rhain mae 6,000 yn gweithio ar eu safle ym Mrychdyn, Sir y Fflint, sy'n cynhyrchu adenydd awyrennau.
Dywedodd Mr Kahn ym mis Mai: "Os, ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, y byddai amgylchiadau economaidd ym Mhyrdain yn llai ffafriol na rhannau eraill o Ewrop, neu du hwnt, a fyddai Airbus yn ail feddwl buddsoddi yn y Deyrnas Unedig?
"Byddwn, yn bendant."
Straeon perthnasol
- 21 Mai 2015