Ymgynghori ar gau ysgolion cynradd Sir y Fflint
- Cyhoeddwyd

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gynlluniau i gau tair ysgol gynradd yn y sir, yn dilyn cyfarfod o'r cabinet.
Bu rhieni ysgolion Maes Edwin, Llanfynydd a Mornant yn protestio'r tu allan i gyfarfod y cabinet fore Mawrth.
Y cynharaf y gallai'r ysgolion gau fyddai haf 2016.
Fe wnaeth y cabinet hefyd gytuno i gynnal arolwg o bedair ysgol arall - ysgolion Brynffordd, Licswm, Rhos Helyg a Nercwys.
Mae'r cyngor yn dweud bod 2,182 o lefydd gwag mewn ysgolion cynradd yn y sir ar hyn o bryd, sy'n 17% yn ormod, tra bod targed cenedlaethol i ostwng hyn i lai na 10%.
Oherwydd hynny, dywed y cyngor bod angen "edrych ar opsiynau mewn rhai ardaloedd fydd yn cynnwys cau ysgolion gyda niferoedd disgyblion sy'n gostwng neu adeiladau sydd ag adeiladau sy'n heneiddio".
Dywedodd y cyngor y byddan nhw'n dilyn y gweithdrefnau llawn i "sicrhau bod disgyblion, rhieni, gofalwyr, staff a llywodraethwyr yn derbyn y wybodaeth briodol a'u bod yn gallu cyfrannu eu barn fel rhan o'r broses adolygu".