Glyn Roberts yw llywydd newydd Undeb Amaethwyr Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi cyhoeddi enw eu llywydd newydd mewn cyfarfod yn Aberystwyth.
Cyn ddirprwy lywydd y mudiad, Glyn Roberts, gafodd ei ethol gan gyngor yr undeb.
Dywedodd Mr Roberts, sydd o fferm Dylasau Uchaf, Padog ger Betws-y-Coed: "Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi pleidleisio drostaf i i fod yn llywydd nesaf Undeb Amaethwyr Cymru.
"Mae ganddo ni ddyled fawr i'r cyn lywydd Emyr Jones am ei arweinyddiaeth dros y pedair blynedd diwethaf wrth i ni ddathlu 60 mlynedd o ymladd dros ffermydd teuluol, ac rydw i'n edrych ymlaen at ddilyn ôl troed fy rhagflaenwyr."
Mae Mr Roberts wedi bod yn ffermio yn Dylasau Uchaf ers 1983, ac wedi gwneud sawl rôl o fewn yr undeb dros y blynyddoedd.
Roedd yn is-lywydd rhwng 2004 a 2011 ac yna yn ddirprwy lywydd ers 2011.