Cwest milwyr: 'Dim rheswm' i atal ymarferiad
- Cyhoeddwyd

Mae cwest i farwolaethau tri milwr ym Mannau Brycheiniog wedi clywed "nad oedd rheswm" dros ddod ag ymarferiad i ben yn gynnar, er bod rhai o'r milwyr wrth gefn yn diodde' o effeithiau'r gwres.
Dywedodd y milwr oedd yn gyfrifol am yr asesiad risg na fyddai wedi bod yn rhan o'i feddylfryd i atal y gweithgaredd, am fod y mwyafrif o'r milwyr yn "gwneud yn dda".
Bu farw'r Is-gorporal Craig Roberts, o Fae Penrhyn, ger mynydd Pen-y-Fan yn ystod yr orymdaith 16 milltir o hyd ym mis Gorffennaf 2013, diwrnod poetha'r flwyddyn yn 2013.
Roedd dau filwr arall, yr Is-gorporal Edward Maher a'r Corporal James Dunsby, wedi marw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
'Cwrs caled'
Dywedodd milwr sy'n cael ei adnabod fel 1B yn y llys wrth y gwrandawiad yn Solihull fod 78 o filwyr wrth gefn yn rhan o'r ymarferiad ar y diwrnod dan sylw, a bod chwech wedi rhoi'r gorau iddi'n gynnar yn y prynhawn am resymau meddygol.
Ond dywedodd nad oedd hyn wedi'i boeni am ei fod yn gwybod fod y cwrs yn un "caled".
"Roedd pawb yn cwblhau'r orymdaith ar amser...ar y pryd roedd y ddau filwr oedd yn cael triniaeth feddygol wedi dod atyn nhw'u hunain mewn 10 munud...wnaeth yr un o'r tîm meddygol ddweud fod angen rhagor o gymorth," meddai.
"Roedd y rhedwyr eraill i gyd ar amser...gan gynnwys Craig, Ed a James.
"Oeddwn i'n poeni ar y pryd? Nag oeddwn."
'Gwthio'u hunain'
Gofynnodd David Turner QC, sy'n cynrychioli gweddi'r Corporal Dunsby, a fyddai milwr 1B wedi parhau â'r orymdaith petai swyddog 1A oedd yn arwain wedi dweud wrtho am y milwyr oedd yn diodde' o effeithiau'r gwres.
"Bydden i wedi edrych ar beth oedd yn digwydd...mae pawb yn gwthio'u hunain...mae'n cymryd math gwahanol o berson i weithredu o fewn sefyllfa fel 'na, ar y pryd byddwn i'n dweud na fyddai wedi bod yn rhan o'n meddylfryd i atal yr orymdaith," meddai.
Dywedodd milwr 1B ei fod wedi dweud wrth yr ymgeiswyr i fod yn ymwybodol o'r tywydd poeth a'r gwres uchel, ond nad oedd wedi ystyried bod effeithiau'r gwres yn fwy o risg na'r arfer.
Ychwanegodd nad oedd yn ymwybodol o ganllawiau newydd ar anafiadau gwres a phan ddylid dod â gweithgaredd i ben, yn dilyn marwolaeth milwr mewn amgylchiadau tebyg yn 2008.
Bryd hynny bu farw Benjamin Poole ar ôl diodde' problemau gyda'i galon wrth wneud yr un cwrs SAS - er nad oedd unrhyw achos wedi'i nodi ar gyfer ei farwolaeth.
Gan gyfeirio at rai o'r ymgeiswyr yn yr ymarferiad ar Fannau Brycheiniog, dywedodd 1B ei fod yn "teimlo nad oedd rhai ohonyn nhw'n gwybod be oedd o'u blaenau o ran yr wythnos brawf," ond bod nifer y bobl oedd yn rhoi'r gorau iddi wastad wedi bod yn uchel.
"Ar bob cwrs dwi wedi'i gynnal, llai na 50% sy'n pasio'r wythnos brawf," meddai.
Mae'r cwest yn parhau.