Pryderon cwmni am lagŵn llanw Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae BBC Cymru yn deall mai Grŵp Jan de Nul yw'r cwmni o Wlad Belg sydd wedi lleisio pryderon am y penderfyniad i ddewis cwmni o China fel y ceffyl blaen i godi morglawdd lagŵn llanw gwerth £650 miliwn ym Mae Abertawe.
Wythnos diwethaf fe roddodd Adran Ynni a Newid Hinsawdd Llywodraeth San Steffan ganiatâd i'r cynllun fynd yn ei flaen.
Mae'r grŵp wedi cadarnhau eu bod wedi codi cwestiynau am y broses gytundebol a gwrthdaro buddiannau posib ac mae Llywodraeth Gwlad Belg wedi ysgrifennu'n ffurfiol at Lywodraeth Prydain i leisio'r pryderon.
"Pryderon ffurfiol"
Ddydd Mercher fe ddywedodd y grŵp wrth BBC Cymru eu bod wedi "lleisio pryderon yn ffurfiol drwy Lywodraeth Gwald Belg i Lywodraeth y DU ... ac mae'r cwmni yn gofyn a oedd y drefn yn deg i'r holl gwmnïau oedd yn gwneud cais am gytundeb lagŵn llanw Bae Abertawe".
Nid cwyn yw hyn, meddai'r cwmni, ond cam i "leisio pryder gwirioneddol".
Dywedodd y cwmni nad oedden nhw wedi clywed canlyniad y broses geisiadau'n uniongyrchol ond oherwydd adroddiadau yn y wasg - mai'r cwmni oedd wedi ei ddewis oedd y China Harbour Engineering Company.
Dywedodd Jan De Nul eu bod yn ymwybodol y gallai hyn edrych fel eiddigedd ar eu rhan ond mae'r cwmni wedi pwysleisio fod eu pryderon pennaf yn ymwneud â "thryloywder a gwrthrychedd y broses geisiadau" a bod y cwmni am gael ymateb Tidal Lagoon Power sydd tu ôl i'r fenter i adeiladu'r lagŵn.
Roedd y cytundeb ar gyfer y gwaith werth tua £500m, ar gyfer gwaith ar y morglawdd ac ar 16 o dyrbeini. Gan fod y gwaith mor werthfawr, meddai'r grŵp roedd llawer o waith wedi ei wneud i baratoi eu cais.
Y broses dendro
Dywedodd Jan de Nul mai un o'i brif bryderon oedd mai cwmni o'r enw Atkins oedd y cwmni penodedig ar gyfer gwaith syrfewyr peirianyddol i'r cynllun.
Ers 2014 mae Atkins, yn ôl eu disgrifiad eu hunain, "wedi datblygu partneriaeth tymor hir" gyda'r China Harbour Engineering Company, y cwmni gafodd ei ddewis ar gyfer y gwaith ym Mae Abertawe..
Dywedodd cwmni Atkins wrth BBC Cymru mai eu gwaith oedd "paratoi cynllun dylunio manwl ar gyfer y gwaith adeiladu er mwyn ei roi i dendr ... gan asesu pob cais yn erbyn manylion y dyluniad."
Hefyd dywedodd cwmni Atkins mai penderfyniad Tidal Lagoon Power oedd dewis y cyflenwr penodedig, gan ychwanegu eu bod yn "gweithio gyda nifer o gwmnïau adeiladu mawr ar draws y byd, gan gynnwys y China Harbour Engineering Company."
'Yn rymus'
Ychwanegodd y cwmni nad oedden nhw wedi cydweithio gyda'r cwmni hwn ar gynllun lagŵn llanw Abertawe hyd yn hyn.
Nid oedd Tidal Lagoon Swansea Bay yn fodlon ymateb i'r cwestiwn ai cais y China Harbour Engineering Company oedd y cais rhataf a gafodd ei gynnig, ond dywedodd y cwmni eu bod wedi cysylltu gyda phob un o'r cwmnïau aflwyddianus.
Roedd Tidal Lagoon wedi dweud bod eu proses dendro yn "rymus a chystadleuol iawn".
"Mae manylion pob cais yn gyfrinachol," meddai'r cwmni, "ac ni fyddwn fyth yn gwneud sylw am y ceisiadau na'r cwmnïau oedd yn rhan o'r broses."