Coron Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau
- Cyhoeddwyd

Cafodd Coron Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau ei chyflwyno i Bwyllgor Gwaith lleol yr Eisteddfod nos Fercher.
Roedd y digwyddiad yn cael ei gynnal yng Nghapel Tabernacl, Machynlleth.
Rhoddir y Goron eleni gan Gymdeithas Cymru-Ariannin.
Mae wedi ei chynllunio a'i chynhyrchu gan yr artist John Price, ac mae'n cyfleu'r berthynas rhwng Cymru a Thalaith Chubut ym Mhatagonia.
Yn ei chanol, mae carreg a godwyd o draeth Porth Madryn - ble glaniodd y Cymry cyntaf yn 1865. O gwmpas y garreg honno, mae hwyliau llong y Mimosa yn cael eu tynnu i lawr ar ddiwedd y daith.
Mae'r Goron hefyd yn cynnwys symbol o afon Camwy a blodau'r Celyn Bach.
Bydd y Goron yn cael ei rhoi i'r bardd buddugol am gasgliad o gerddi digynghanedd, ynghyd â gwobr ariannol er cof am Aur ac Arwyn Roberts, Godre'r Aran, Llanuwchllyn.
Mae Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yn cael ei chynnal ar dir Mathrafal o 1-8 Awst, 2015.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2015
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2015
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2015
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2014