Tlodi plant: Ymateb pennaeth elusen
- Cyhoeddwyd

Wrth i un o bwyllgorau'r Cynulliad leisio ei bryderon am y methiant i fynd i'r afael a thlodi yng Nghymru, mae Mary Powell-Chandler, pennaeth elusen Achub y Plant yng Nghymru wedi ysgrifennu erthygl i BBC Cymru Fyw am safbwynt yr elusen ar y pwnc:
"Mae Achub y Plant yn credu y dylai plant ym mhobman gael y cyfle i ffynnu a chyflawni eu potensial, pa le bynnag y cawsant eu geni. Mae'n gwbl anfoesol i wneud dim a derbyn y bydd plant a anwyd mewn tlodi yng Nghymru yn llai iachus o ran eu hiechyd corfforol a'u datblygiad gwybyddol ac y byddant yn cyflawni llai o ran cyrhaeddiad addysgol na'u cyfoedion sy'n well eu byd.
Yr ydym yn gwybod fod plant tlawd yn fwy tebygol o dyfu'n oedolion tlawd a fydd yn ymdrechu i fyw ar incwm isel, ac yn eu tro byddant yn fwy tebygol o fagu teulu mewn cyflwr o dlodi. Mae'n gylch seithug. Ond mae modd torri'r cylch hwnnw.
Mae'n warthus fod 200,000 o blant yn byw mewn tlodi. Dau gan mil o blant. Un o bob tri.
Er bod y doethinebwyr yn honni fod economi'r DU yn gwella'n araf ar ôl y dirwasgiad, ychydig effaith, os o gwbl, y mae hyn yn ei gael ar filoedd o blant a theuluoedd sy'n ymdrechu i gael dau ben llinyn ynghyd heddiw ledled y DU.
Adroddiad
I deuluoedd tlawd yn ein cymunedau, mae'r ymdrech o ddydd i ddydd i gael dau ben llinyn ynghyd yn ddi-baid, heb iddynt allu gweld y pen draw. Roedd adroddiad Achub y Plant 'Cychwyn Teg' ym Mis Mai 2014 yn darogan na fyddai tlodi plant yn cael ei ddiddymu erbyn 2020, ond byddai'n fwy tebygol y bydd cynnydd yn y nifer o blant a theuluoedd yn byw mewn tlodi ledled y DU, o bosibl y nifer mwyaf a gofnodwyd erioed yn y DU.
Yr oedd yr un adroddiad yn tanlinellu'r ffaith druenus ei bod yn costio mwy i fod yn dlawd - cyfeiriwn at hyn fel 'premiwm tlodi' h.y. am fod teuluoedd incwm isel yn prynu nwyddau a gwasanaethau dyddiol ac am nad yw'r dewis o ariannu rhatach ar gael iddynt, mae'n golygu eu bod gan amlaf yn talu pris uwch.
Er enghraifft, mae teuluoedd incwm isel yn fwy tebygol o ddefnyddio meter rhagdalu am drydan a nwy. O ganlyniad, maen nhw'n talu graddfa uwch am bob uned na chwsmeriaid sydd yn talu drwy ddebyd uniongyrchol. Gallai bil blynyddol nodweddiadol deuol fod tua 21% (£241) yn ddrytach. Mae ymchwil Achub y Plant yn dangos y gallai'r premiwm tlodi fod cymaint â £1,639 y flwyddyn.
Mae gan y gost uchel am ofal plant effaith benodol ar y rhai sydd mewn tlodi. Mae hyn yn cynnwys rhieni sy'n gorfod torri'n ôl ar fwyd, cael eu gorfodi i fynd i ddyled, a rhieni'n methu manteisio ar gyfleoedd i weithio a chael hyfforddiant ac mae hyn yn parhau'r trap tlodi. Mae agwedd Llywodraeth Cymru'n pwysleisio dwy swyddogaeth gofal plant: y dylai feithrin y plentyn yn ogystal â rhoi cefnogaeth i'r teulu. Er hynny, dengys ein hymchwil fod llawer o rieni yng Nghymru ac yn enwedig y rhai ar incwm isel, ar waethaf y swyddogaeth ddeuol hon, yn parhau i ymdrechu i sicrhau gofal addas i'w plant.
Gofid
Mae Llywodraeth Cymru yn dal at ei hymrwymiad i ddileu tlodi plant erbyn 2020 ac rydym yn croesawu ei rhaglenni a'i mentrau yn erbyn tlodi. Er hynny, mae'n ofid i ni fod llawer o blant sydd yn byw mewn tlodi yng Nghymru heddiw ddim yn byw mewn ardal lle y gallant elwa ar y mentrau hyn. Er enghraifft, mae Dechrau'n Deg yn dibynnu ar leoliad. Bydd effaith mesurau llymder ariannol y cytunwyd arnynt gan Lywodraeth y DU, yn peri pryder o ran cyllido yng Nghymru.
Heddiw, mae Pwyllgor Cymunedau a Llywodraeth Leol y Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhoeddi ei 'Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru: Tlodi ac Anghydraddoldeb'. Yr ydym yn falch ein bod wedi gallu cyfrannu at yr Ymchwiliad a gweld bod cynifer o'n sylwadau wedi cael eu cynnwys. Yr ydym yn croesawu'r casgliadau a'r argymhellion.
Mae'n amlwg fod y sefyllfa a'r risgiau yn gwaethygu i blant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru. Mae datrys hyn yn gyfrifoldeb i ni i gyd.