Cwest milwyr: 'Rhwystredigaeth' meddyg
- Cyhoeddwyd

Mae uwch lawfeddyg milwrol yn 'rhwystredig' am y diffyg gwybodaeth am bolisi salwch gwres oedd yn bodoli yn ystod ymarferiad yr SAS ar Fannau Brycheiniog yn 2013.
Dywedodd Dr Graeme Nicholson wrth gwest i farwolaeth tri milwr y dylai canllawiau'r Weinyddiaeth Amddiffyn yr oedd wedi ei awdurdodi fod wedi cael eu dilyn ar y pryd.
Bu farw'r Is-gorporal Craig Roberts o Fae Penrhyn ger mynydd Pen-y-Fan ym mis Gorffennaf 2013, a bu farw dau filwr arall, yr Is-gorporal Edward Maher a'r Corporal James Dunsby, yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Mae'r cwest wedi clywed yn barod y byddai'r dynion wedi goroesi'r ymarferiad petai nhw wedi cael eu galw yn ôl yn gynt ar ddiwrnod poethaf 2013.
Dr Nicholson yw awdur dogfen ganllaw ar salwch ac anafiadau o achos yr hinsawdd yn y fyddin, sy'n cael ei adnabod fel dogfen JSP539.
'Canllaw parhaol'
Dywedodd fod y ddogfen yn "ganllaw parhaol" ac felly fe ddylid bod wedi ei dilyn gan filwyr 1A ac 1B, oedd yn rheoli'r ymarferiad ar y diwrnod.
Fe allai'r rheolwyr fod wedi gofyn am gyngor gan y Swyddfa Dywydd, ond roedd eu hasesiad risg yn "anghyflawn" meddai, gan ychwanegu: "Fe ddylie chi fod yn ymwybodol o amgylchiadau'r hinsawdd".
Dywedodd bod canllawiau JSP539 yn cael eu defnyddio gan amlaf tu allan i'r DU mewn amgylchiadau hinsawdd boeth.
"O achos y newidiadau yn nhywydd y DU a'r drafferth o gynnal tymheredd uchel fe ddylid bod y milwyr wedi cael eu hystyried fel rhai nad oeddent wedi arfer gyda'r amgylchedd," meddai.
'Rhwystredigaeth'
Gofynnodd y crwner am farn y llawfeddyg am y ffaith bod nifer yn y cwest wedi dweud nad oedden nhw'n ymwybodol o gwbl o'r canllawiau. Mewn ymateb dywedodd Dr Graeme Nicholson: "Rhwystredigaeth yw'r datganiad gonest".
Ychwanegodd: "Fe fyddwn wedi gobeithio am well dealltwriaeth... hyd yn oed pan gafodd y canllawiau eu cyhoeddi roedd 'na nifer o DVDs a chyhoeddiadau o gwmpas. Mae nifer sylweddol o hyfforddiant gorfodol yn ein cyfundrefnau."
Gofynnodd y bargyfreithiwr Keith Morton QC ar ran tad James Dunsby wrth y llawfeddyg os oedd yn gwbl annerbyniol fod cymaint ar yr ymarferiad heb unrhyw ymwybyddiaeth o'r canllawiau.
Dywedodd Dr Nicholson: "Nid ydw i'n credu o safbwynt personol bod hyn yn briodol."
Pan ofynnwyd iddo beth gafwyd ei wneud i sicrhau fod cyhoeddiadau'n cael eu darllen gan swyddogion y fyddin ac eraill, dywedodd ei fod yn dibynnu ar y lluoedd unigol i basio'r wybodaeth ymlaen.