Gwrthdrawiad A470: Dyn yn yr ysbyty mewn hofrennydd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd gydag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A470.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car a beic modur am 07:20 ddydd Iau ger Clatter ym Mhowys.
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod dyn wedi ei gludo i'r ysbyty yn Stoke mewn hofrennydd.
Cafodd y ffordd ei gau rhwng y B4568 a Ffordd Dol-Llin yng Ngharno am gyfnod wedi'r ddamwain.