Cwmni'n cyfaddef cyhuddiad wedi marwolaeth ffatri
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni o ogledd Cymru wedi cyfaddef cyhuddiad iechyd a diogelwch wedi marwolaeth dyn gafodd ei wasgu mewn ffatri.
Roedd disgwyl i'r achos yn erbyn Morgan Technical Ceramics o Riwabon gael ei glywed yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Iau, ond fe wnaeth bargyfreithiwr bledio'n euog ar ran y cwmni cyn yr achos.
Fe wnaeth y cwmni gyfaddef i fethu sicrhau iechyd a diogelwch gweithwyr, gan gynnwys y diweddar Christopher Michael Williams, ym mis Rhagfyr 2013.
Bu farw Mr Williams, 51 o Acrefair ger Wrecsam, o'i anafiadau ar ôl cael ei daro gan beiriant gwasgu oedd yn pwyso rhwng 1,000 a 1,500 cilogram.
Fe gafodd rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol ei gofnodi mewn cwest i'w farwolaeth.
Rhoddodd y barnwr Rhys Rowlands amser i'r erlyniad ymateb, ac fe all y cwmni gael eu dedfrydu ym mis Medi.
Straeon perthnasol
- 6 Rhagfyr 2012