Wedi dotio ar y campau
- Cyhoeddwyd

Mae BBC Cymru yn dechrau ymgyrch i chwilio am wyneb newydd i lenwi sgidie Dot Davies fel cyflwynydd Clwb Rygbi ar S4C. Cafodd Cymru Fyw air gyda'r ferch o Flaenannerch wrth iddi hi baratoi am bythefnos arall ynghanol y mefus a'r hufen yn Wimbledon:
Sut brofiad oedd cyflwyno Clwb Rygbi?
Mae 'di bod rhyw 4-5 mlynedd fi'n credu, t'mod be, sain cofio'n iawn, o'dd e'n amser hir, rho fe felna! O ni'n dilyn ôl troed y meistr, Ray Gravell, a'r hen ben Sarra Elgan fuodd yn garedig iawn a'i chyngor pan ddechreues i. Odd e'n brofiad gwbl newydd i fi fod ar yr ystlys gyda'r camera o'm mlaen i, gan taw o gefndir radio ddes i.
O ni'n becso ar y dechre, yn meddwl "hang on nawr, ble fi fod i edrych" ond ti'n sylweddoli eitha cloi mai ffans rygbi sy'n dilyn Clwb Rygbi a ma' nhw jyst eisiau i rywun i ofyn y cwestiyne ma nhw moyn atebion iddyn nhw.
Weithie ti ofn croesi'r llinell rhwng bod yn gyflwynydd a bod yn dipyn o ffan, a mynd yn rhy excited... mond bod ti'n cadw'r cydbwysedd yna, dyna be' sy'n bwysig.
Ond dwi mor lwcus. 'Se rhywun 'di dweud wrthai pan o ni'n blentyn bo fi am 'neud y jobyn ma Ray Gravell yn neud, 'se ni ddim 'di credu nhw.
Beth oedd yr uchafbwynt i ti?
Wel, mae'n uchafbwynt i lot o bobl dwi'n meddwl, ond pan enillodd Cymru yn erbyn Lloegr ddwy flynedd yn ôl... nhw'n dod i Stadiwm y Mileniwm ac yn mynd am y gamp lawn... a ni'n ennill y Bencampwriaeth ar y diwedd.
Odd e'n brofiad mor emosiynol, a phan o ni'n gweithio ar y gêm 'na feddylies i na fyddwn i fyth yn gweld rhwbeth cystel a hwn. Yr unig beth fydde'n coroni hynny fydde gweld Cymru yn ffeinal Cwpan y Byd ac yn codi'r tlws.
Shwt ma ferch fferm o Geredigion yn delio gyda cyfweld rhai o sêr enwoca'r byd chwaraeon?
Achos bo' fi o gefndir Clwb Ffermwyr Ifanc ac yn ferch ffarm, o ni 'di arfer delio gyda lot o dynnu coes. O ni'n mynd i'r mart 'da dad, a wastad yng nghanol y dynion beth bynnag. O safbwynt newyddiadurol, fe wnes i gymaint o flynyddoedd gyda radio 'nath rhoi'r sylfaen i ddelio a sefyllfaoedd anodd, fel pan o'dd rhaid cyfweld â rhywun ar ôl i Gymru golli, neu ar ôl i'r Scarlets ne'r Gleision gael racsad ne' be' bynnag.
'Na be' sy'n dda am y Clwb Rygbi, ma'n rhaid ca'l hwyl a bod yn barod i ga'l bach o sbort, ond hefyd ma' rhaid bod yn barod i ofyn y cwestiyne dy'n nhw ddim eisiau eu hateb, a weithie ti yn pechu.
Yn ystod y blynyddoedd dwi 'di 'neud Clwb Rygbi fi'n credu bo fi 'di datblygu croen mwy trwchus. Gallu di fyth fod yn groen denau ar y rhaglen na! Ma' pethe'n mynd o chwith, weithie ma' pobl yn gofyn cwestiwn twp, ond ma' rhaid ti cael rhyw fath o ffydd yn dy hunan bod ti'n neud y jobyn iawn!
A'r person gorau ar gwaethaf i ti gyfweld a nhw?
Ma da fi'n favourites! Wrth sôn am rygbi'n benodol, pan yn siarad 'da Mike Phillips ni wastad yn ca'l tipyn o sbort, fi gallu tynnu ei goes e, a s'dim dal be 'wedith e, ma' fe wastad 'run peth, a 'neith e byth wrthod cyfweliad.
Mae'r run peth yn wir am Sam Warburton. Mae e'n gwrtais, gwbl broffesiynol, dyw e byth yn osgoi unrhyw gwestiwn, a dwi'n teimlo y gallai ofyn unrhywbeth iddo fe.
Ma rhai sydd wedi bod yn ddigon lletchwith 'da fi dros y blynyddoedd hefyd cofia, ond wnai ddim enwi neb!
Ond nid rygbi oedd dy gariad cyntaf di ym myd chwaraeon?
Pan o ni'n fach ro'n i a'n ffrind gorau yn arfer esgus bo ni'n chwaraewyr tenis, ac ro'n i'n arfer cwmpo mas am bwy o'dd yn cael bod yn Steffi Graf. Ro' ni arfer whare yn erbyn wal storws y ffarm. Bues i'n chware dros yr ysgol ar sîr 'fyd.. .sai'n gweud bo'fi o unrhyw werth ond ro'n i'n dwli ar denis, o ni'n hollol hooked!
Mae gweithio yn Wimbledon eleni eto yn dipyn o fraint de?
Dwi di bod yn gweithio yn Wimbledon ers dros ddegawd, hwn yw'r 11fed tro, a dwin ffili credu bo fi dal yn mynd!
Mae'n grêt, mynd lân i wylio tenis am bythefnos, mae'n brill! Byddai'n gweithio ar raglen newyddion PM ar BBC Radio 4 a fe fyddai ar BBC Radio 5 Live hefyd, yn ogystal â'r anrhydedd o 'neud rhaglen gyda John McEnroe, sy' actually yn gwbod fy enw i erbyn hyn. Nath e gymryd 6-7 mlynedd, bob tro odd e'n cerdded heibio ro'dd e fel bod e rioed 'di fy ngweld i o'r blaen!
Ond erbyn hyn, fi'n cal tipyn o "Hi Dot"'s wrtho fe! Bydd Tim Henman gyda fi hefyd, ac Andy Roddick!
Ar wahan i Wimbledon a pharhau i gyflwyno Sport Wales, oes gen ti gynlluniau eraill ar ôl rhoi'r gore i Clwb Rygbi?
Byddai'n gweithio tipyn gyda Radio Wales, yn llenwi dros Jason Mohammad tra bydd e i ffwrdd. Yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd fe fyddai'n gohebu i BBC Radio 5 Live yn ystod y gemau a byddai'n cyflwyno rhaglen 'da Matt Dawson.
Mi fyddai'n cyflwyno rhaglenni uchafbwyntiau Cwpan y Byd ar S4C hefyd.
Oes gen ti unrhyw gyngor i ddarpar gyflwynydd newydd Clwb Rygbi?
Ma'n rhaid gwbod eich stwff, joio... c'al lot o sbort, ond hefyd dal eich tir pan mae pethe'n mynd o 'with! A wastad gwisgo digon o layers a menyg, a chadw losin yn eich poced!