Plant ysgol gynradd ar goll yn ystod trip
- Cyhoeddwyd

Mae ymchwiliad wedi dechrau ar sut aeth nifer o ddisgyblion ysgol gynradd ar goll yn ystod taith.
Roedd y plant o Ysgol Gynradd Rhos, Abertawe, ar daith i'r Mwmbwls, ddydd Mawrth pan aethant ar goll.
Dywedodd yr heddlu eu bod wedi cael eu galw, ond fod y disgyblion a'r athro wedi canfod ei gilydd tua 10 munud yn ddiweddarach.
Dywedodd un o lywodraethwr yr ysgol, y Cynghorydd Alex Thomas: "Mae ymchwiliad wedi dechrau i gael gwybod yn union beth a sut ddigwyddodd fan hyn.
"'Dwi'n deall fod y digwyddiad yma wedi gwneud i rieni boeni, ac mae hynny yn gwbl ddealladwy.
"Mae'r ysgol, y cyngor a'r corff llywodraethol yn cymryd y mater o ddifrif."
Dywedodd Mr Thomas ei bod eisiau aros nes bod yr ymchwiliad wedi ei gwblhau, cyn gwneud unrhyw sylw pellach.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru: "Derbyniodd yr heddlu adroddiad fod nifer o blant wedi crwydro i ffwrdd yn ystod ymweliad ysgol â'r Mwmbwls brynhawn dydd Mawrth.
"Ond tua 10 munud ar ôl i ni dderbyn yr alwad, cafodd y plant eu haduno gydag athro a oedd ac nid oedd angen i'r heddlu gymryd unrhyw gamau pellach."