Fandaliaid yn difrodi ceir cebl sydd newydd agor
- Cyhoeddwyd

Mae system car cebl newydd ym Mlaenau Gwent wedi gorfod cau i'r cyhoedd ddwywaith ychydig ddyddiau ar ôl agor - ar ôl iddynt gael eu targedu gan fandaliaid.
Mae'r ceir gwerth £2.5 miliwn yn cysylltu sgwâr canol tref Glynebwy gyda'r Gweithfeydd - hen safle'r gwaith dur.
Fe gymerodd hi flwyddyn i adeiladu'r system, a dim ond ddydd Mercher diwethaf fe'i hagorwyd.
Fe ymosododd fandaliaid ar y system rheoli'r drysau ar un achlysur, tra cafodd y synwyryddion diogelwch eu haflonyddu mewn digwyddiad arall.
"Hyd yma, mae dau achlysur gwahanol wedi bod pan oedd yn rhaid i'r ceir gau i lawr oherwydd ymddygiad defnyddwyr," cadarnhaodd swyddog o gyngor Blaenau Gwent, sy'n gyfrifol am weithredu'r ceir.
Dywedodd y cyngor fod timau yn yr ardal yn cynnal patrolau rheolaidd o'r ceir, ac mae'r ardal hefyd yn cael ei monitro rownd y cloc gan gamerau teledu cylch cyfyng.
Mae'r ceir, sy'n gallu cludo 22 o bobl ar un tro, yn ddi-griw ac yn cael eu gyrru gan y defnyddwyr eu hunain.
Mae'n teithio 140 troedfedd (43m) rhwng dwy orsaf.