Gwahardd codwr pwysau o Gymru am bedair blynedd
- Cyhoeddwyd

Roedd wedi cymryd sylweddau gwaharddedig yn ystod Uwchbencampwriaeth Cymru ar 8 Mawrth, 2015.
Mae'r codwr pwysau Andrew Riddiford, sy'n byw yn Aberdâr, wedi ei wahardd rhag cystadlu am bedair blynedd.
Dywedodd Asiantaeth Gwrthgyffuriau Prydain fod profion wedi dangos bod y dyn 26 oed wedi cymryd sylweddau gwaharddedig yn ystod Uwchbencampwriaeth Cymru ar 8 Mawrth, 2015.
Yn Ionawr penderfynodd Asiantaeth Gwrthgyffuriau'r Byd mai'r gosb leiaf mewn cystadleuaeth ryngwladol fyddai pedair nid dwy flynedd.
Ni fydd Riddiford yn cael cystadlu tan 7 Mawrth, 2019.
"Dwi'n croesawu'r gosb newydd," meddai Prif Weithredwr Asiantaeth Gwrthgyffuriau Prydain, Nicole Sapstead.
"Bydd y cosbau llymach yn golygu na all y rhai sy'n twyllo gystadlu am gyfnod hirach ac yn atal rhai sy'n ystyried twyllo."