Keith Davies: Ddim yn sefyll eto
- Cyhoeddwyd

Keith Davies
Mae disgwyl i Keith Davies AC Llafur Llanelli gyhoeddi ddydd Gwener na fydd e'n ymgeisio am y sedd yn etholiadau'r cynulliad yn 2016.
Cafodd y cyn gyfarwyddwr addysg, sy'n 74 oed, ei ethol yn aelod dros Lanelli yn 2011.
Llwyddodd i guro Helen Mary Jones, Plaid Cymru, yn y sedd ymylol o 80 o bleidleisiau.
Mae disgwyl i Mr Davies wneud datganiad llawn a ffurfiol ddydd Gwener.