Pantycelyn: Y coleg yn penderfynu
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i Gyngor Prifysgol Aberystwyth drafod cynigion newydd i ddarparu llety i fyfyrwyr Cymraeg Aberystwyth.
Yn ôl cynnig cadeirydd y cyngor, Emyr Jones Parry, bydd y myfyrwyr Cymraeg yn symud i neuadd Penbryn ac yn dychwelyd i Neuadd Pantycelyn ar ôl i'r gwaith atgyweirio gael ei gwblhau ymhen pedair blynedd.
Mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) wedi croesawu'r "cam sylweddol ymlaen".
Dywedodd Hanna Merrigan, Llywydd UMCA: "Mae'r cytundeb hwn yn ymrwymiad hanesyddol a hirdymor i ddyfodol Pantycelyn fel neuadd breswyl gyfrwng Cymraeg.
"Bydd yr ymgyrch i sicrhau dyfodol ein neuadd yn parhau nes y bydd myfyrwyr yn dychwelyd i breswylio yn y neuadd."
Mae'r myfyrwyr wedi "meddiannu" rhan o'r adeilad fel rhan o'r ymgyrch.
Fe ddywedodd Prifysgol Aberystwyth fod y cynnig yn "atgyfnerthu ymrwymiad y brifysgol i'r iaith Gymraeg a darpariaeth llety myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn Aberystwyth, ac i broses i weithredu eu bwriad i ail agor Pantycelyn o fewn pedair blynedd i'r pwrpas hwn."
Mae'r Aelod Cynulliad lleol, Elin Jones, wedi mynegi pryder am y sefyllfa. Ar raglen Y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru fore Llun dywedodd hi fod sawl aelod o'r cyngor wedi mynegi pryder am effaith yr anghydfod ar enw da'r coleg.