Carcharu athro am brynu dros £1000 mewn arian ffug.

  • Cyhoeddwyd
Eliot WilliamsFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Eliot Williams: Carchar am 8 mis

Mae athro wedi ei garcharu am brynu dros £1000 mewn arian ffug.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod Eliot Williams, 23 oed, yn berchen ar waled oedd yn llawn papurau arian ffug er mwyn eu defnyddio "o ddydd i ddydd".

Fe gyfaddefodd Williams i fod gyda'r arian yn ei feddiant ac fe gafodd ei garcharu am 8 mis.

Dywedodd y Barnwr Daniel Williams wrtho: "Mae'r rhai sy'n ymwneud ag arian ffug yn ymwneud a throseddau difrifol.

"Rwy'n siwr eich bod yn deall erbyn hyn fod gwasgaru arian ffug yn tanseilio'r economi ac yn gadael pobl ddiniwed gydag arian ffug."

Roedd Williams wedi bod yn gweithio fel athro llanw yn Ysgol Uwchradd Llanwern yng Nghasnewydd ac roedd newydd gael cynnig am swydd llawn amser.

Clywodd y llys sut y gwnaeth dalu £250 o'i arian ei hun ar wefan gymdeithasol i dalu am yr arian ffug.

Pan gafodd ei ddal roedd ganddo £60 ffug yn ei waled, ac roedd yn bwriadu gwario'r arian ar drwsio ei gar.

Clywodd Eliot Williams nad oedd "unrhyw ddewis" ond ei anfon i garchar.