Marwolaeth: Trên yn taro dyn
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr heddlu trafnidiaeth eu galw i orsaf Tregŵyr ychydig cyn 9:00
Mae dyn wedi marw wedi i drên ei daro ar lein De Cymru rhwng Abertawe a Llanelli ychydig cyn 9:00.
Cafodd yr heddlu trafnidiaeth eu galw i orsaf Tregŵyr ychydig cyn 9:00.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Andy Morgan: "Fe gafon ni wybod am 8:57 ac ar hyn o bryd does dim amgylchiadau amheus.
"Rydyn ni'n ceisio adnabod y dyn cyn rhoi gwybod i'r teulu. Mae ffeil yn cael ei pharatoi ar gyfer y crwner."
Mae'r digwyddiad wedi arwain at oedi ar y gwasanaeth.