Damwain ddifrifol yn Ffynnongroyw: Apêl am dystion
- Cyhoeddwyd

Cafodd casglwr sbwriel o Sir Fflint ei hedfan mewn ambiwlans awyr i ysbyty yng nghanolbarth Lloegr oherwydd damwain ddifrifol yn Ffynnongroyw.
Roedd bws wedi ei daro a chafodd y gwasanaethau brys eu galw am 08:35.
Mae'r heddlu a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio i achos y ddamwain.
Cafodd y ffordd drwy bentref Ffynnongroyw, ger Treffynnon, ei chau am gyfnod.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101.