Ceisio sicrwydd am ffordd liniaru'r M4 ger Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Mae CBI Cymru yn galw am "sicrwydd" gan Lywodraeth Cymru am gynlluniau ffordd liniaru'r M4 o amgylch Casnewydd.
Fe wnaeth y gweinidog sy'n gyfrifol am y cynllun, Edwina Hart, gyhoeddi ddydd Gwener na fydd hi yn sefyll yn etholiadau'r Cynulliad yn 2016.
Ms Hart wnaeth gymeradwyo'r prosiect i'r de o Gasnewydd nol yng Ngorffennaf 2014.
Dywed y CBI, cymdeithas y cyflogwyr, na ddylai'r cynllun golli momentwm gan na fydd Ms Hart yn parhau yn ei swydd ar ôl mis Mai nesaf.
Ym mis Mawrth, fe wnaeth tri chwmni sicrhau cytundebau i ddechrau gweithio ar y cynllun gwerth £1 biliwn.
Mae'r cynlluniau yn cynnwys 24 cilometr o draffordd newydd a thraphont 2.5 cilometr yn croesi Afon Wysg, ac ail-lunio cyffyrdd 23 a 29 o'r M4.
Ond mae ymchwiliad cyhoeddus i'r cynlluniau yn debygol o ddechrau'r flwyddyn nesaf.
Llwybr dadleuol
Mae'r gwrthbleidiau a nifer o ACau Llafur yn gwrthwynebu'r cynllun, ond i raddau gwahanol.
Mae llwybr dewisol y llywodraeth yn ddadleuol oherwydd ei gost a'r effaith posib ar yr amgylchedd.
Dywedodd Chris Sutton, o CBI Cymru: "Mae cynllun ffordd liniaru'r M4 yn parhau yn flaenoriaeth i economi Cymru.
"Wrth i ni edrych i adeiladau ar ein cynllun isadeiledd tymor hir ar gyfer Cymru, mae'n rhaid i ni sicrhau nad ydyn ni'n colli momentwm gyda'r cynllun allweddol yma.
"Rydyn ni'n deall bod gweinidogion a llywodraethau'n newid, ond y sialens yw parhau i ddelio gyda phroblemau tymor hir fydd yn sicrhau twf ar gyfer y dyfodol."
Ond mae Ffederasiwn y Busnesau Bychain wedi dweud nad ydyw'r ffordd yn flaenoriaeth iddynt.
Yn ôl Iestyn Davies byddai modd gwario'r £1biliwn yn well, gan gynnwys gwellau sgiliau a gwella cysylltiadau trafnidiaeth ledled Cymru.
" Does dim angen y math yma o organolbwyntio gan un gweinidog a hynny ar un ffordd mewn un rhan o Gymru."
Straeon perthnasol
- 17 Gorffennaf 2014
- 2 Ebrill 2013