Gleision yn ceisio arwyddo Faletau

  • Cyhoeddwyd
Taulupe FaletauFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Newport Gwent Dragons number eight Taulupe Faletau (left) made his Wales debut in 2011

Mae'r Gleision yn aros i glywed gan asiant Taulupe Faletau ac ôl gwneud cais i arwyddo wythwr Dreigiau Gwent.

Ond mae'r chwaraewr rhyngwladol 24 oed yn darged i dîm Caerfaddon.

Mae'r BBC yn deall fod y Gleision wedi gwneud cais ond nad ydynt wedi clywed dim yn ôl.

"Y peth siomedig yw nad ydym wedi cael unrhyw ymateb gan ei asiant," meddai Caerdydd y Gleision Peter Thomas.

"Yn sicr mae gan y Gleision ddiddordeb yn arwyddo'r chwaraewr ac rwy'n sicr y byddai Warren Gatland wrth ei fodd pe bai'r chwaraewr yn aros yng Nghymru."