Crabb: 'Angen i'r Cynulliad symud ymlaen'

  • Cyhoeddwyd
stephen crabb
Disgrifiad o’r llun,
Mae Mr Crabb yn annerch ACau ym Mae Caerdydd ddydd Mercher

Mae'r cyhoedd yn ysu am wasanaethau gwell yn lle dadlau am bwerau'r Cynulliad, yn ôl Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb.

Fydd Mr Crabb yn annerch ACau ym Mae Caerdydd, gan bwysleisio y dylid troi'r Cynulliad yn Senedd lawn fydd yn meddu ar y pŵer i godi trethi.

Mae Llywodraeth Prydain yn awyddus bod Llywodraeth Cymru yn cynnal refferendwm i sicrhau datganoli rheoli 10c yn y bunt o dreth incwm.

Yn y gorffennol mae Mr Crabb wedi dadlau y dylid cynnal y bleidlais fel rhan o gytundeb i sicrhau isafswm i gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru.

Ond mae dyfalu wedi bod ers yr etholiad cyffredinol y gellid gwneud hyn heb refferendwm.

Mae disgwyl i Mr Crabb ddweud: "Mae pobol Cymru ar bigau'r drain i weld gwleidyddiaeth yn symud ymlaen o'r dadlau am ddatganoli a phwerau, ac i ganolbwyntio ar gyflawni ac ar newid go iawn."

Bydd yn cyhoeddi na fydd Ysgrifennydd Gwladol yn annerch yn flynyddol ym Mae Caerdydd.