Damwain Ffynnongroyw: Dyn wedi marw
- Cyhoeddwyd

Mae casglwr sbwriel wedi marw ar ôl damwain yn Ffynnongroyw yn Sir y Fflint ddydd Llun.
Cafodd Andrew Green, 39 oed o Fwcle, ei hedfan mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Prifysgol Brenhinol Stoke.
Roedd bws wedi ei daro a chafodd y gwasanaethau brys eu galw am 08:35. Chafodd neb arall ei anafu.
Mae'r heddlu a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio i achos y ddamwain.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101.