Llofruddiaeth Wrecsam: Rheithgor yn ystyried
- Cyhoeddwyd

Mae'r rheithgor yn achos dau ddyn sydd wedi'u cyhuddo o lofruddio dyn yn ardal Wrecsam wedi dechrau ystyried eu dyfarniad.
Fe wnaeth y Barnwr Mr Ustus Wyn Williams orffen crynhoi'r achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug fore Mercher.
Bu farw Sion Davies, 25, yn stad Parc Caia fis Hydref y llynedd.
Mae Anthony Munkley, sy'n cael ei adnabod fel Charlie, 53, a Lee Michael Roberts, 33, yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth.
Mae gwraig Mr Munkley, Gwenythe Munkley, 55, yn gwadu gwyrdroi cwrs cyfiawnder drwy helpu ei gŵr i osgoi cael ei arestio.
Yn ôl yr erlyniad, bu farw Mr Davies ar ôl cael ei drywanu â chyllyll, ei saethu â bwa croes a'i wthio oddi ar falconi fflat trydydd llawr.
Fideo
Yn ystod yr achos gwelodd y rheithgor fideo oddi ar ffôn symudol Mr Davies yn cofnodi rhan o'r ymosodiad yn y gegin.
Clywodd y llys fod Mr Davies wedi diodde' anafiadau i'w ben, ei ffêr, ei asennau, ei arddwrn a'i benglog.
Mae Mr Munkley yn gwadu achosi unrhyw niwed i Mr Davies, er ei fod yn cyfadde' ei fod yn y fflat adeg yr ymosodiad.
Honnodd yr amddiffyniad fod dyn anhysbys, gydag acen Geordie, wedi dod i'r fflat gyda Mr Davies, a bod hi'n ymddangos fod y ddau'n adnabod ei gilydd.
Ymosod
Yn ôl Mr Munkley, fe ymosododd y dyn hwnnw ar Mr Davies gan achosi ei farwoaleth.
Dywedodd nad oedd Mr Roberts yn y fflat yr un adeg ag e.
Ond roedd Mr Roberts wedi cyfadde' bod yno adeg yr ymosodiad, a gwadodd fod yna ddyn ag acen Geordie yno. Honnodd Mr Roberts mai Mr Munkley oedd wedi cyflawni'r ymosodiad ar ei ben ei hun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2015
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2015
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2014