Cwest milwyr: 'Newidiadau'n cael eu hystyried'
- Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi clywed bod gwelliannau i hyfforddiant yn cael eu hystyried wythnosau cyn i dri milwr wrth gefn farw ar ymarferiad gyda'r SAS.
Fe gyfaddefodd y milwr oedd yn gyfrifol am baratoi milwyr wrth gefn ar gyfer yr ymarferiad fod paratoadau "mwy buddiol" yn cael eu hystyried, rhai oedd yn cael eu darparu i filwyr llawn amser.
Roedd tystion blaenorol wedi honni bod milwyr wrth gefn ddim wedi arfer gyda'r amgylchiadau anodd ar ddiwrnod yr ymarferiad.
Bu farw'r Is-gorporal Craig Roberts o Fae Penrhyn ger mynydd Pen-y-Fan ym mis Gorffennaf 2013, a bu farw dau filwr arall, yr Is-gorporal Edward Maher a'r Corporal James Dunsby, yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
'Anodd i newid'
Fe ofynnwyd i'r milwr yn gyfrifol am hyfforddiant milwyr wrth gefn, Milwr 2A a oedd modd gwneud newidiadau cyn marwolaeth y milwyr.
"Mi fyddai wedi bod yn anodd," meddai. "Bydden ni wedi gorfod gwneud newidiadau sylweddol i'r rhaglen."
Dywedodd bod y newidiadau ddim yn cael eu hystyried yn rhai brys ond y bydden nhw'n gobeithio y byddai milwyr wrth gefn yn cael yr un paratoadau â milwyr llawn amser.
Mae'r hyfforddiant wedi cael ei newid ers hynny.
Ychwanegodd Milwr 2A fod y grŵp yn cael eu hyfforddi'r diwrnod hwnnw yn un cryf ond bod ffactorau fel y tywydd a'r offer wedi arwain at farwolaeth y tri milwr.