Marwolaeth Dinbych y Pysgod: Enwi dynes fu farw

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dynes gafodd ei darganfod yn farw yn y môr oddi ar arfordir Sir Benfro.
Roedd Maryam Cooke, 63 oed, yn ymweld ag ardal Dinbych y Pysgod o Newcastle.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Draeth y Gogledd fore Llun.
Dywedodd yr heddlu fod y farwolaeth heb esboniad ar hyn o bryd a'u bod am siarad gydag unrhyw un â gwybodaeth.
Cafodd y crwner ei hysbysu.