Meddygon awyr: Lansiad swyddogol
- Cyhoeddwyd

Bydd meddygon awyr newydd Cymru yn dechrau hedfan yn dilyn lansiad swyddogol gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.
Fel rhan o wasanaeth 'EMRTS Cymru' - y Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys - bydd ymgynghorwyr yn ymuno ag ymarferwyr gofal ar alwadau Ambiwlans Awyr Cymru.
Bydd y timau'n gallu cyrraedd 95% o'r boblogaeth drwy'r awyr, a 46% ar hyd y ffyrdd o fewn 30 munud.
Mae'r meddygon awyr wedi bod yn weithredol ers diwedd mis Ebrill ac eisoes wedi cwblhau mwy na 100 o alwadau ar hofrenyddion Ambiwlans Awyr Cymru.
Yn ogystal ag anfon meddygon ar hofrenyddion yr Ambiwlans Awyr, mae EMRTS Cymru hefyd wedi cyflwyno technoleg newydd gan y lluoedd arfog a datblygiadau newydd ym maes gwasanaeth hofrenyddion meddygol brys.
Mae'r gwasanaethau yn cynnwys offer newydd sydd fel arfer ond ar gael mewn ysbytai, cerbydau ymateb brys 4x4 newydd, a mwy o driniaethau ar gyfer pobl â salwch ac anafiadau difrifol ledled Cymru.
Partneriaeth
Cafodd EMRTS Cymru ei ddatblygu mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, elusen Ambiwlans Awyr Cymru, GIG Cymru, Gwasanaeth Gwaed Cymru, a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £2.868m i gefnogi'r tîm, ond mae Ambiwlans Awyr Cymru yn parhau i ddibynnu ar roddion elusennol i godi £6m bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jonesbod y lansiad "yn garreg filltir bwysig".
"Bydd y timau gofal critigol newydd yn cael eu harwain gan feddygon ac yn ein galluogi i gynnig y gofal gorau posibl i'r cleifion sydd fwyaf difrifol wael yng Nghymru.
"Mae hyn yn golygu bod cleifion mewn rhannau diarffordd a gwledig o Gymru yn gallu manteisio ar sgiliau ymgynghorydd neu feddygon gofal dwys a all achub bywyd a rhoi gofal critigol arbenigol."
'Gwahaniaeth rhwng byw a marw'
Un o'r bobl gyntaf i elwa ar ofal y meddygon awyr oedd Simon James, 37 oed, gafodd drawiad ar y galon ar y cae wrth chwarae i Glwb Rygbi Brynaman ar 5 Ebrill.
Ar ôl cael triniaeth frys gan rai o'r dorf, aelodau o'i dîm ac ymatebydd cyntaf, cafodd y tad i ddau driniaeth gan y tîm ambiwlans awyr. Cafodd ei ruthro i'r ysbyty, lle treuliodd fwy nag wythnos mewn cyflwr difrifol.
Dywedodd: "Roedd gan lawer o bobl ran i'w chwarae yn fy helpu, ac fe allai pethau fod wedi bod yn wahanol iawn os byddai un ohonyn nhw ddim yna. Mae siawns eitha' da y bydden i heb ddod drwyddi.
"Bydd y gwasanaeth meddygon awyr yn helpu i achub bywydau, heb unrhyw amheuaeth."
Ychwanegodd: "Rwy'n gyrru loris ac yn gweld damweiniau ar hyd yr M4. Mae'r gwasanaeth newydd yn golygu bydd dim rhaid aros i fynd â phobl i'r ysbyty cyn bod meddyg yn gallu eu gweld nhw - mae'r meddyg yna yn y fan a'r lle.
"Gallai olygu'r gwahaniaeth rhwng byw a marw."
Dywedodd Angela Hughes, prif weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: "Mae rhoi ymgynghorwyr ar ein hofrenyddion yn gam mawr arall tuag at ddarparu'r gwasanaeth ambiwlans awyr gorau yn y byd.
"Mae'n bwysig i bobl Cymru bod gwasanaeth gofal brys o'r radd flaenaf ar gael, yn enwedig o ystyried nifer y cymunedau gwledig sydd yma. Bydd y datblygiadau hyn yn achub bywydau llawer o bobl sydd angen cymorth brys.
Straeon perthnasol
- 29 Medi 2014