Corff babi: Yr heddlu'n apelio am wybodaeth
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r De yn parhau i apelio am wybodaeth ar ôl i gorff babi newydd-anedig gael ei ddarganfod yn Afon Taf ddydd Mawrth.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi derbyn galwad am 18:00 i ardal Taffs Mead o'r ddinas.
Yn ôl y Ditectif Arolygydd Gareth Morgan, mae'n debyg fod y babi wedi ei eni yn ystod y dyddiau diwethaf.
Dywed yr heddlu mai'r flaenoriaeth nawr yw dod o hyd i fam y babi er mwyn cynnig cymorth meddygol ac emosiynol iddi.
Mae'r heddlu hefyd yn apelio am wybodaeth gan bobl yn y gymuned leol sydd efallai wedi gweld dynes sydd yn dioddef o sgîl-effeithiau genedigaeth.
Dywedodd Jim Hall o Heddlu'r De fod swyddogion yn parhau i ymchwilio o ddrws i ddrws yn yr ardal, gyda mwy o swyddogion ar droed er mwyn tawelu ofnau'r gymdeithas leol.
Mae'r heddlu hefyd yn apelio ar unrhyw un sydd yn defnyddio Afon Taf ger y man lle cafodd corff y babi ei ddarganfod, neu unrhyw un sydd yn parcio eu cerbydau yn agos i'r llecyn, i geisio cofio am unrhyw ddigwyddiad yn ystod y dyddiau diwethaf fyddai o gymorth iddyn nhw.
Dylai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101.
Straeon perthnasol
- 24 Mehefin 2015