Moch daear a Barack Obama
- Cyhoeddwyd

Ar ôl pedair blynedd wrth y llyw mae Emyr Jones o'r Bala yn rhoi'r gorau i fod yn Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru.
Mae'n bwrw golwg yn ôl ar gyfnod pryderus i ffermwyr Cymru:
Y diciáu
Dwi'n meddwl ein bod ni wedi bod yn flaengar iawn fel Undeb yn brwydro i drio perswadio Llywodraeth Cymru i symud yn gynt a gwaredu'r diciâu.
Mae honno'n un o'r brwydrau mwyaf yr ydym ni wedi bod yn rhan ohoni. Pan ddechreuais i fel Llywydd, Elin Jones o Blaid Cymru oedd y Gweinidog oedd â chyfrifoldeb dros Amaeth.
'Roedd hi am weld y diciâu yn cael ei waredu'n gyfangwbl a rhoddwyd cynllun peilot ar waith yng ngogledd Sir Benfro, un o'r ardaloedd ble roedd y clwy ar ei waetha, i ddifa moch daear.
Ond wedi Etholiadau'r Cynulliad yn 2011 cafodd adolygiad ei gynnal gan y llywodraeth Lafur. Yn dilyn hynny aethpwyd ati, ar gost o £1m, i frechu dros 1,400 o'r moch daear.
Roedd y gost o frechu pob mochyn daear oddeutu £660 ac eto honnai'r arbenigwyr nad oedd yna sicrwydd pendant y byddai'r cynllun brechu yn llwyddo i waredu diciâu yn llwyr.
Dyma un o fy siomedigaethau mwya i tra bum i yn yn y swydd - nid ydym fymryn nes i gael gwared ar y clwy nag oedden ni 4 blynedd yn ôl pan ddaeth Llafur i rym.
Tegwch a chymorthdaliadau
Mae 'na newidiadau mawr wedi bod o ran y cymorthdaliadau a roddir i ffermwyr. Mae'r arian Ewropeaidd Pilar 1, sy'n cael ei ddosbarthu gan y Cynulliad, wedi helpu ffermwyr i gynhyrchu bwyd ac i ffermio ar diroedd anodd.
Ond mae na newid i hwn. Ers 2005 mae'r taliadau wedi bod yn seiliedig ar yr hyn oedd ffermwyr yn ei gadw fel stoc yn ystod y cyfnod rhwng 2000 a 2002. Roedd o'n daliad teg gan fod y ffermwyr oedd yn cynhyrchu yn drwm yn cael y gorau allan o'u ffermydd.
Ond o rwan ymlaen, bydd y taliad a gaiff ffermwyr yn seiliedig ar faint o dir sy'n eiddo iddynt neu faint o dir sy'n cael ei ffermio. Rydym yn disgwyl datganiad gan Lywodraeth Cymru yn y Sioe Fawr ynglŷn â sut yn union y gweithredir y cynllun hwnnw.
Credaf mai'r hyn sy'n debygol o ddigwydd yw y bydd yna flat rate drwy Gymru gyfan, a hynny oddeutu 170 Ewro am bob hectar o dir. Mae teimlad cryf ymysg y diwydiant amaeth fod hynny'n hollol annheg oherwydd na ellir talu yr un faint am hectar o dir sy'n cynhyrchu bwyd o'i gymharu â thir sydd ddim mor gynhrychiol.
Mae ffermwyr sydd â thir da ar lawr gwlad yn derbyn dros 450 Ewro yr hectar ar hyn o bryd. Dyna i chi golled!!
Y broblem gyda'r cymhorthdal yma yw'r ffaith nad yw'n ysgogi ffermwyr i ffermio yn y ffordd orau. Y ffermwyr fydd yn colli allan fwya' fydd y rhai sy'n cynhyrchu'r mwya' o fwyd.
Dyfodol yr Undeb Ewropeaidd
'Rydym ni fel Undeb yn credu ei bod hi'n bwysig bod y DU yn aros o fewn yr undeb Ewropeaidd. 'Rydym yn dibynnu cymaint ar yr arian yma - arian Pilar 1 a Philar 2. Mae arian Pilar 2 sef y Cynllun Datblygu Gwledig, yn werth bron i £1 Biliwn a fydd yn cael ei rannu dros y 5 mlynedd nesaf i gefn gwlad Cymru.
Mae'n bwysig fod yr arian hwn yn mynd i ffermwyr i'w galluogi i gynhyrchu bwyd a gwneud bywoliaeth yng nghefn gwlad Cymru.
Rhoddir pwyslais mawr erbyn hyn ar yr amgylchedd. Mae hyn yn bwysig, ond os nad ydi gwledydd eraill yn gwneud cynlluniau ar gyfer newidiadau yn yr hinsawdd, paham cosbi ffermwyr yng Nghymru a mynnu eu bod yn cynhyrchu llai drwy ddatblygu cynlluniau amgylcheddol? Credaf mai cymryd cam yn ôl mewn hanes y byddwn wrth wneud hynny.
Y genhedlaeth nesa
Mae rhaid cael cynlluniau penodol i helpu pobl ifanc. Tydi'r cynlluniau sydd wedi bod yn gorffennol heb fynd yn ddigon pell i helpu ffermwyr dan 40 mlwydd oed.
Mae'r rheolau ynglŷn â phwy sydd yn berchen ffarm yn golygu y gall yr ifanc gael eu trethu yn uchel, felly mae'n rhaid dod o hyd i ffordd o'u helpu nhw - mae datblygu partneriaethau yn un ffordd.
Mae eisiau rhyw ffordd o'u hannog nhw i aros i gynhyrchu bwyd - dyna ydi prif bwrpas ffermio wedi'r cwbl. Gallwn wneud hynny ond i ni gael llywodraeth sy'n gefnogol i'r diwydiant amaeth.
Yr ymgyrchu'n parhau
Tra roeddwn i yn Llywydd, y meibion a'r wraig oedd yn edrych ar ôl y ffarm, ac ambell waith 'roedd gofyn imi fod oddi cartref am dri neu bedwar diwrnod.
Ni wnaeth y teulu erioed gwyno 'mod i oddicartre gymaint efo'r Undeb, a dwi'n ddiolchgar tu hwnt iddyn nhw. Ond allai'm dweud wrthych chi faint dwi di ei fwynhau a chymaint o fraint dwi wedi ei gael o fod yn Llywydd.
Dwi gwneud llawer iawn o ffrindiau a chyfarfod pobl na fuaswn i erioed wedi eu cyfarfod fel arall gan gynnwys ysgwyd llaw yr Arlywydd Obama a chael sgwrs efo Canghellor yr Almaen, Angela Merkel.
Bob tro ro'n i'n mynd i ffwrdd roeddwn yn pwysleisio mai cynrychioli ffermwyr Cymru oni'n neud boed nhw yn aelodau'r FUW neu beidio.
Mi fyddai'n colli'r cysylltiad yna gyda'r gwleidyddion. Mae Rebecca Evans wedi bod yn Ddirprwy-Weinidog Amaeth ers blwyddyn . Dwi'n teimlo ei bod hi wirioneddol eisiau helpu ffermwyr Cymru a dwi'n gobeithio y bydd hi'n llwyddo.
Mae ganddom ni ddwy Undeb gref yng Nghymru ac rydan ni yn cydweithio yn agos ac yn effeithiol gyda swyddogion NFU Cymru er lles y byd amaeth.
Y peth hanfodol yn hyn i gyd yw dangos parch tuag at bawb. Roedd 'na gyfnod anodd pan roedd Alun Davies yn weinidog efo cyfrifoldeb dros amaeth - doedd hi ddim yn adeg hawdd.
Ro'n i'n teimlo nad oedd o eisiau gwrando, ond dwi ddim yn mynd i redeg arno fo. Mae o wedi symud ymlaen a dwi wedi symud ymlaen.
Ond drwy'r cyfnod anodd na mi wnes i ddangos parch ato. Mae'n rhaid gwneud hynny bob tro neu does ganddoch chi ddim gobaith cael parch yn ôl.
Mae'n rhaid dangos parch mewn sefyllfaoedd anodd, neu mi fydd pawb ar eu colled.