Fflatiau wedi'u gwagio oherwydd tân yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth y fflamau ymestyn i ddrysau Tafarn y Plu, a difrodi peipiau nwy
Mae chwech o bobl wedi gorfod gadael fflatiau yng nghanol Wrecsam wedi i dân gynnau ar stryd, cyn lledu i adeiladau cyfagos.
Dywedodd ddiffoddwyr eu bod wedi eu galw i Heol Charles yn oriau cynnar bore Gwener ar ôl i ddodrefn a matres gael eu cynnau.
Fe wnaeth y fflamau ledu i ddrysau Tafarn y Plu, a difrodi peipiau nwy.
Mae ymchwiliad wedi dechrau i geisio darganfod achos y tân.