Ymosodiad Tesco: Zack Davies yn euog o geisio llofruddio

  • Cyhoeddwyd
Zack Davies
Disgrifiad o’r llun,
Bydd Zack Davies yn cael ei ddedfrydu ym mis Medi

Yn Llys y Goron yr Wyddgrug mae dyn yn euog o geisio llofruddio yn dilyn ymosodiad ar ddeintydd dan hyfforddiant mewn archfarchnad ym mis Ionawr.

Roedd Zack Davies, 26 oed, wedi ymosod ar Dr Sarandev Bhambra gyda machete a morthwyl er mwyn dial am lofruddiaeth y milwr Lee Rigby.

Roedd Davies wedi dweud wrth yr heddlu ei fod yn breuddwydio weithiau am ddrylliau ond nad oedd ganddo wn. Hefyd roedd wedi meddwl am ladd pobl.

Bydd yn cael ei ddedfrydu ym mis Medi.

'Hynod o beryglus'

Ffynhonnell y llun, cascadenews.co.uk
Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth Dr Bhambra ddioddef anafiadau difrifol yn yr ymosodiad

Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands wrth y rheithgor: "Fe ddioddefodd Dr Bhambra anafiadau difrifol fydd yn newid ei fywyd mewn ymosodiad hiliol parhaus.

"Roedd yn digwydd bod yn y lle anghywir ar yr amser anghywir ac fe gafodd ei ddewis mewn modd dychrynllyd o achos y ffordd yr oedd yn edrych."

Dywedodd fod Zack Davies yn "ddyn ifanc hynod o beryglus", ac fe ddiolchodd i Pete Fuller, dyn oedd wedi atal Davies rhag parhau gyda'r ymosodiad, ac i deulu Dr Bhambra am eu hymddygiad yn ystod yr achos.

'Llawer gwaeth'

Roedd Davies wedi gwadu ceisio llofruddio ond wedi cyfaddef achosi newid bwriadol.

Yn ystod yr achos, clywodd y rheithgor ei fod wedi dweud wrth yr heddlu ei fod yn cofio gweiddi "white power" yn ystod yr ymosodiad a bod hyn "yn awtomatig".

Ffynhonnell y llun, CPS
Disgrifiad o’r llun,
Roedd bron i Dr Bhambra golli ei law yn yr ymosodiad

"Rwy'n meddwl mai'r peth cyntaf ddywedais i oedd 'Cofiwch Lee Rigby'," meddai.

Pan ofynnodd yr heddlu iddo a oedd yn deall canlyniadau tebygol ei ymosodiad gyda'r machete, roedd wedi dweud: "Mae'n mynd i achosi niwed, niwed sylweddol."

Wedyn ychwanegodd: "Gallai hi fod wedi bod yn llawer gwaeth.

"Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai'n cael ei ladd," meddai. "...mi oeddwn i'n meddwl bod ei anafiadau'n arwynebol."

Dywedodd wrth yr heddlu ei fod wedi clywed llais yn dweud "ymosod, ymosod".

Ffynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Fe gafodd Lee Rigby ei lofruddio yn Woolwich yn Llundain ym mis Mai 2013

'Gweithred hiliol'

Pan ofynnodd yr heddlu a oedd yn derbyn mai ymosodiad hiliol oedd y digwyddiad, dywedodd: "Yn ôl y sôn, mi oedd o."

Cyfaddefodd yn hwyrach ei fod yn meddwl bod "yr ymosodiad yn weithred hiliol".

Ychwanegodd bod ei ddiddordeb mewn Natsïaeth wedi dechrau ar ôl cael ei wahardd o'r ysgol.

Pan ofynnodd yr heddlu beth fyddai effaith adroddiadau'r cyfryngau am yr ymosodiad, dywedodd: "Dod yn enwog am y rhesymau anghywir, mae'n siŵr."

Bydd Zack Davies yn cael ei ddedfrydu ar 11 Medi.

Ffynhonnell y llun, Tesco
Disgrifiad o’r llun,
Zack Davies yn cerdded i mewn i archfarchnad Tesco ar ddiwrnod yr ymosodiad