Prosiect Maes B yn ysbrydoli pobl ifanc Powys

  • Cyhoeddwyd
DegawdFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Y llun cynta' o'r band

Fel rhan o brosiect newydd gan yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, cafodd criw o bobl ifanc ddysgu am berfformio mewn band, trefnu gigs a ffilmio fideos. Nawr mae grŵp o bobl ifanc o'r canolbarth wedi penderfynu rhoi eu sgiliau newydd ar waith drwy drefnu cystadleuaeth Brwydr y Bandiau yn eu gŵyl leol. Mae Bethan, o'r band Degawd, yn Ysgol Uwchradd Caereinion, Powys, wedi rhannu'r profiad gyda Cymru Fyw.

Gig cynta'

Ffynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Bethan yn perfformio hefo Degawd

Profiad bythgofiadwy oedd cael fy newis i fod yn aelod o fand yr ysgol. Rydw i'n aelod balch o 'Degawd', ynghyd â Gemma, Llywelyn, Ceri, Aaron, Manon, Tim, Ffion, Morgan a Harri. Cafodd y band ei ffurfio fel rhan o brosiect Maes B gyda'r Eisteddfod Genedlaethol ac rydym bellach wedi datblygu i fod yn fand sy'n chwarae mewn nifer o ŵyliau lleol!

Pendefynon ni ar yr enw Degawd ar ôl sawl awgrym, fel Corwynt Caereinion a Llewod y Llan. Degawd oedd hi am fod gan bod 10 ohonom yn y band! Ein gig cyntaf oedd yn yr ysgol er mwyn hyrwyddo Maes B a'r Eisteddfod Genedlaethol i'n disgbylion ac i roi blas iddyn nhw o'r sîn roc Gymraeg. Roedd yr awyrgylch yn anghredadwy! Yn dilyn ein perfformiad, daeth 'band gorau Cymru' i'r llwyfan - CANDELAS!! Roedd y neuadd yn siglo 'efo sgrechiadau gwyllt, yn enwedig y merched! Canon nhw bum cân, gan gynnwys 'Brenin Calonnau' a 'Llwytha'r Gwn', fy ffefryn! Fe ganon ni fel band ddwy gân - 'Ffrindia' gan Maffia Mr Huws, a 'Gŵyl Yr Eisteddfod', can wnaethon ni 'sgwennu fel band yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ym Meifod. Roedd y disgyblion wrth eu boddau, ac o ystyried mai hwn oedd ein gig cyntaf, mi aeth yn reit dda!

Ffynhonnell y llun, Arall
Ffynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Rhai o aelodau'r band yn cyfweld Osian o Candelas

Recordio CD

Ymlaen a thaith Degawd i recordio CD o'r ddwy gân! Ar 26 Mai, gyda chymorth Dylan Penri Menter Maldwyn a Gwyn Jones, llwyddon ni i recordio'r ddwy a chael llwyth o hwyl wrth wneud! Rydym wedi cynnal cystadleuaeth yn yr ysgol i greu clawr i'r CD, ond alla' i ddim datgelu gormod a difetha'r sypreis! Byddwn yn gwerthu'r CD yng Ngŵyl Maldwyn, Cann Offis, dros y penwythnos.

Efallai bod rhai ohonoch wedi ein gweld yng ngharnifal Llanfair Caereinion yn ddiweddar? Am brofiad arall bythgofiadwy! Hwn oedd ein gig cyntaf cyhoeddus felly ro'n i'n nerfus iawn, ond wrth chwarae roeddwn i wrth fy modd! Braf oedd gweld y dorf yn ymuno hefo ni, gan ganu a dawnsio, ac roedd ambell i symudiad werth ei weld! Roedd y tywydd yn berffaith a'r cae yn orlawn o bobl. Am ymarfer bendigedig ar gyfer ein perfformiad nesaf…

A dyma ni fely - Gŵyl Maldwyn, Cann Offis, 27 Mehefin. 'De ni'n methu aros! Rydym wedi bod yn ymarfer ar ôl ac yn ystod amser ysgol, ac yn edrych 'mlaen yn arw at gael cystadlu yn erbyn bandiau lleol eraill ym Mrwydr y Bandiau.

Am fywyd roc a rôl!

Ffynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Llun swyddogol 'Degawd'

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol