Plentyn wedi marw wedi gwrthdrawiad tractor Aberdaron

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi enw'r plentyn fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhen Llŷn fore Sadwrn.

Bu farw Teal Amelia David, oedd yn 6 oed ac yn dod o Sir Rhydychen, wedi gwrthdrawiad gyda thractor.

Cafodd yr heddlu eu galw i ffordd gefn yn Aberdaron am 08:38 fore Sadwrn.

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth a dylai unrhyw un welodd y digwyddiad gysylltu gyda Tîm Heddlu'r Ffyrdd.

Ni chafodd unrhyw fanylion pellach eu rhyddhau.