Andy Burnham: 'Gwybod' bod Cymru ar ei cholled

Andy Burnham Image copyright PA

Mae un o'r ymgeiswyr i fod yn arweinydd nesaf y blaid Lafur wedi dweud ei fod yn gwybod nad oedd Cymru yn cael cyfran deg o arian y DU pan oedd yn weinidog yn y Trysorlys wyth mlynedd yn ôl.

Ond dywedodd Andy Burnham wrth BBC Cymru nad oedd yn gallu newid polisi'r llywodraeth.

Yn 2007, fe wrthododd galwadau i adolygu fformiwla Barnett, sy'n pennu faint o arian y mae Cymru yn ei dderbyn.

Mae'r pedwar ymgeisydd - Mr Burnham, Yvette Cooper, Jeremy Corbyn a Liz Kendall, wedi bod yn siarad gyda rhaglen Sunday Politics Wales.

'Angen newidiadau'

Mae arweinwyr pob un o'r prif bleidiau yng Nghymru wedi dweud bod fformiwla Barnett yn rhy hael i'r Alban a Gogledd Iwerddon.

Wyth mlynedd yn ôl, yn siarad fel Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, dywedodd Mr Burnham nad oedd gan y llywodraeth unrhyw gynllun i adolygu'r fformiwla.

Ond yn siarad gyda BBC Cymru, dywedodd: "Fe wnes i'r adolygiad gwariant i'r llywodraeth Lafur diwethaf ac fe wnes i edrych yn fanwl ar fformiwla Barnett, a dod i gasgliad nad oedd yn deg i Gymru ac y byddai angen newidiadau i sicrhau setliad ariannol llawer mwy teg.

"Dyna yw fy marn hyd heddiw. Nid yw wedi newid."

Dywedodd ei fod wedi gwrthod galwadau i newid y fformiwla tra yn y swydd oherwydd: "Dyna oedd lein y llywodraeth ar y pryd, ac yn amlwg doeddwn i ddim mewn sefyllfa i newid hynny.

"Nid fi oedd y rhif un yn y Trysorlys, fi oedd y rhif dau [i Alistair Darling].

"Ond yr hyn sy'n wych am gystadleuaeth fel hyn yw'r gallu i siarad dros eich hun a chyflwyno maniffesto eich hun i roi stamp unigryw ar y blaid Lafur.

"Yn yr achos yma dwi'n meddwl bod Cymru wedi methu allan ac fel arweinydd buaswn i'n cymryd camau i gywiro hynny."

Image caption Bydd yr ymgeiswyr yn cymryd rhan mewn trafodaeth yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf

Mae pob un o'r ymgeiswyr yn cefnogi'r syniad o gonfensiwn cyfansoddiadol i gynllunio patrwm pwerau'r dyfodol i genhedloedd y DU.

Dywedodd Yvette Cooper: "Rydw i am weld y confensiwn cyfansoddiadol yn symud ymlaen, ond mae angen iddo gynnwys mwy na'r blaid Lafur yn unig.

"Mae angen pob math o leisiau cymunedol a sefydliadau o dros y wlad i fod yn rhan ohono."

Mae Jeremy Corbyn yn credu bod hanes Cymru yn cynnig canllaw i'r dyfodol.

"Daeth y GIG gan Aneurin Bevan, Keir Hardie oedd yr AS i Ferthyr, mae gyda ni'r cefndir enfawr yna yng Nghymru," meddai.

"Mae gwreiddiau Llafur yng Nghymru. Dylwn ni fod yn falch o hynny."

'Beth sydd orau i Gymru'

Dywedodd Liz Kendall nad yw hi'n dilyn patrwm Blair na Brown fel ymgeisydd.

"Rydw i'n ymgeisydd Kendallite, rydw i hefyd yn credu'n gryf mewn datganoli," meddai.

"Bydd pethau'n digwydd yn wahanol mewn gwahanol rannau o'r wlad. Bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn gwybod beth sydd orau i Gymru."

Bydd yr ymgeiswyr yn cymryd rhan mewn hysting yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf.

Bydd Sunday Politics Wales ar BBC1 am 11:00, 28 Mehefin.