Arglwydd Janner i gael ei erlyn
- Cyhoeddwyd

Mae'r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus Alison Saunders wedi cyhoeddi y bydd yr Arglwydd Janner yn wynebu achos cyfreithiol mewn cysylltiad â 22 o honiadau hanesyddol o gam-drin rhyw yn erbyn naw o blant.
Mae'r cyhoeddiad yn gwyrdroi'r penderfyniad ym mis Ebrill fod cyflwr dementia'r Arglwydd Janner yn golygu nad oedd yn ddigon iach i wynebu achos troseddol, er bod digon o dystiolaeth ar gyfer cyfle realistig o ddyfarniad.
Cafodd yr Arglwydd Janner ei eni yng Nghaerdydd yn 1928, cyn gweithio fel aelod seneddol yng Nghaerlŷr rhwng 1970 a'i ymddeoliad yn 1997.
Adolygiad
Daw'r cyhoeddiad yn dilyn adolygiad o'r achos gan Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) o dan y cynllun 'Hawl i Adolygiad' ddioddefwyr. O dan y cynllun mae gan ddioddefwyr hawl i gael adolygiad i'w hachos, ac yn yr achos hwn fe ddaeth y bargyfreithiwr David Berry QC i'r casgliad y byddai erlyn Greville Janner mewn llys troseddol o fudd cyhoeddus.
Bydd barnwr nawr yn penderfynnu os yw'r Arglwydd Janner yn ddigon iach i wynebu achos llys. Os yw'n ddigon iach yna fe fydd yn wynebu achos, ond os nad yw'n ddigon iach yna fe fydd yn wynebu 'prawf o'r ffeithiau'.
Mewn achos o'r fath fe fydd rheithgor yn clywed tystiolaeth gan ddioddefwyr honedig a phenderfynnu'n unig os oedd yr Arglwydd Janner wedi cyflawni'r weithred gorfforol o gamdriniaeth. Ni fyddai dyfarniad o euogrwydd neu ddi-euogrwydd.
Dywedodd y gyfreithwraig Liz Dux ar ran rhai o'r dioddefwyr honedig eu bod wrth eu bodd gyda'r newyddion.
Gwyrdroi penderfyniad
Alison Saunders yw Cyfarwyddwr y CPS, a'r cyntaf i weld penderfyniad erlyniad sylweddol ganddi yn cael ei adolygu a'i wyrdroi.
Fe wynebodd alwadau i ymddiswyddo yn dilyn y cyhoeddiad gwreiddiol i beidio ag erlyn yr Arglwydd Janner, ond fe ddywedodd wrth y BBC yn dilyn y cyhoeddiad diweddaraf na fydd hi'n gadael.
Bydd y camau cyntaf yn cychwyn yn erbyn yr Arglwydd Janner yn Llys Ynadon Westminster ar 7 Awst.
Ym mis Mai fe ofynnodd chwech o'r achwynwyr yn yr achos am adolygiad ffurfiol, ac ar gais y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, fe adolygodd David Perry QC yr achos.
Roedd yr adolygiad yn cytuno bod digon o dystiolaeth i erlyn, ond ei bod yn gywir i gymryd na fyddai'r Arglwydd Janner yn cael ei ganfod yn ddigon iach i bledio, ac felly ddim yn ddigon iach i roi cyfarwyddiadau i'w dîm cyfreithiol na chynnig tystiolaeth mewn achos llys.
Dywed yr adolygiad mai canlyniad mwyaf tebygol achos i 'brofi'r ffeithiau' fyddai rhyddhad diamod, sydd ddim yn gosb na'n euogfarn.