Cyn AS yn ymuno ag UKIP Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae Plaid UKIP yng Nghymru wedi cyhoeddi y bydd Mark Reckless yn ymuno â nhw fel Cyfarwyddwr Datblygu Polisi.
Daeth enw Mr Reckless i'r newyddion pan adawodd y blaid Geidwadol pan oedd yn aelod seneddol dros Rochester and Strood.
Cafodd ei ethol yn AS Ceidwadol yn etholiad cyffredinol 2010, ond gadawodd y blaid i ymuno ag UKIP ym mis Medi'r llynedd, ac aeth ymlaen i ennill isetholiad i fod yn AS UKIP ym mis Tachwedd 2014.
Collodd ei sedd i'r Ceidwadwyr yn etholiad cyffredinol 2015.
Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd arweinydd UKIP yng Nghymru Nathan Gill:
"Bydd Mark yn chwaraewr allweddol yn y tîm wrth symud ymlaen a bydd yn gweithio gyda'r aelodau ac eraill i ddatblygu ein maniffesto ar gyfer Etholiadau'r Cynulliad.
"Dros y misoedd nesaf, bydd Mark hefyd yn cynorthwyo i ddewis llefarwyr polisi mewn gwahanol feysydd a fydd yn ffurfio ein tîm mainc flaen os fydd UKIP yn cael ei hethol i'r Cynulliad gan bobl Cymru.
"Ochr yn ochr â phenodiad ein rheolwr ymgyrchu llawn amser i Gymru, rydym yn gwneud datganiad fod UKIP yma i aros."
Pan gafodd ei ethol ym mis Tachwedd y llynedd, Mr Reckless oedd ail AS UKIP yn dilyn ethol Douglas Carswell mewn isetholiad arall mis ynghynt.
Straeon perthnasol
- 23 Tachwedd 2014