Disgwyl i gyngor sir godi ysgol Gymraeg a 200 o dai ym Mhorth Tywyn
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i Gyngor Sir Caerfyrddin gymeradwyo cais i godi ysgol Gymraeg a mwy na 200 o dai ym Mhorth Tywyn ger Llanelli.
Am ddegawdau mae pobl leol wedi bod yn ymgyrchu am ysgol newydd, gan ddadlau bod yr adeilad presennol yn rhy fach a bod y rhan fwyaf o blant yn cael eu dysgu mewn cabanau.
Ym mis Ebrill cafodd y cynllun i ddatblygu hen safle diwydiannol yn ardal yr harbwr ei gymeradwyo ond fe wnaeth gwrthwynebwyr apelio i Lywodraeth Cymru am fod y datblygiad mewn ardal "oedd yn dioddef o lifogydd".
Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu nad oes yna reswm digonol i ymyrryd ac mai'r cyngor sir ddylai fod â'r gair olaf.
Byddai'r datblygiad yn golygu codi 230 o dai, siopau a chyfleusterau hamdden ar safle hen ffatri gemegau Grillo.
Gerllaw bydd ysgol Gymraeg newydd yn cael ei chodi gyda lle i 375 o blant .
Cafodd yr ysgol bresennol ei hagor yn 1972 ond, yn ôl ymgyrchwyr, mae wedi bod yn orlawn am flynyddoedd.
'Cabanau'
"Roedd yr ysgol bron yn rhy fach pan gafodd ei hagor," meddai Angharad Griffin, un o'r ymgyrchwyr.
"Roeddwn i yn un o'r disgyblion cyntaf ac roedd yna un neu ddau gaban yna bryd hynny. Erbyn hyn, mae fy mhlant i yn yr ysgol ac mae'r rhan fwya o'r plant yn cael eu dysgu mewn cabanau.
"Rwy'n falch bod y sir yn mynd i godi ysgol newydd. Dwi ddim yn gwybod am y safle newydd a bydd yn rhaid aros a gweld, ond bydd pawb yn hapus bod yna ysgol newydd yn mynd i ddod."
Cafodd caniatâd cynllunio ar gyfer safle cyn-weithfeydd Grillo ei wrthod yn 2013 oherwydd pryderon am lifogydd.
Ond, yn ôl swyddogion cynllunio, mae'r risg o lifogydd yn is a mapiau llifogydd wedi cael eu newid.