Datganoli: 'Angen trafodaeth agored' ar bwerau
- Cyhoeddwyd

Wrth i'r broses ddatganoli barhau, mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud fod angen "trafodaeth rydd ac agored" ar y pwerau ddylai San Steffan eu cadw.
Mae llywodraeth y DU yn bwriadu cyflwyno system ble bydd popeth yn cael ei reoli o Fae Caerdydd ac eithrio rhai polisïau penodol fydd wedi'u cadw'n ôl.
Fe ddywedodd Carwyn Jones wrth Aelodau Cynulliad y bydd hyn yn darparu eglurder ac yn gymorth yn y dyfodol.
Ychwanegodd y byddai'n hapus i San Steffan i ddal eu gafael ar faterion yn cynnwys amddiffyn, budd-daliadau ac arfau.
Fe ddywedodd Mr Jones fod y rhestr "enghreifftiol", a gafodd ei chyhoeddi gan lywodraeth y DU fis Chwefror, yn rhy hir ac yn "gwbl annerbyniol".
Doedd o ddim, fodd bynnag, yn disgwyl i'r rhestr fydd yn cael ei chyhoeddi ym mis Gorffennaf, fod cyn hired.
'Ystyriaeth ofalus'
"Fe fydd angen ystyried ystod yr amodau yn ofalus os yw'r model pwerau wrth gefn am weithio," meddai wrth bwyllgor materion cyfansoddiadol y cynulliad ddydd Llun.
"Petai'r holl amodau hyn yn dod i rym, fe fydden ni yn yr un sefyllfa ag oedden ni cyn 1999 [pan ddaeth y Cynulliad i fod].
"I fod yn deg, dw i wedi codi hyn gyda'r ysgrifennydd gwladol [Stephen Crabb] ac mae e'n deall nad ydy hyn yn rhywbeth 'dy ni am ei weld.
"Mae'n anffodus bod y ddogfen wedi ei chyhoeddi.
"Mae Stephen Crabb yn sicr yn rhoi'r argraff i mi fod hon yn drafodaeth fydd yn digwydd yn rhydd ac yn agored. Dw i'n croesawu hynny."
Straeon perthnasol
- 27 Mai 2015