Sioe Fawr sy'n dal ei thir

  • Cyhoeddwyd
Aled Jones
Disgrifiad o’r llun,
Aled Jones

Mae'r Sioe Fawr yn Llanelwedd yn un o uchafbwyntiau'r flwyddyn i'r gymuned amaethyddol yng Nghymru a nifer o ymwelwyr eraill drwy'r wlad.

Cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda Aled Jones, Prif Weithredwr Cynorthwyol Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru am drefniadau 'steddfod y ffermwyr':

Ble mae'r Sioe'n llwyddo lle mae eraill wedi methu?

Mae strwythur y gymdeithas yn hollol wahanol i unrhyw gymdeithas ym Mhrydain am wn i, gan ein bod ni'n dilyn strwythur siroedd nawdd, ac yn bendant hynny yw sylfaen llwyddiant y Gymdeithas.

Mae'r strwythur yma yn ei le ers i'r penderfyniad o sefydlu lleoliad y sioe ar faes parhaol gael ei wneud nôl yn 1963.

Disgrifiad o’r llun,
Golygfa odidog o Sioe lwyddiannus

Felly yn hytrach na'r sioe yn teithio o amgylch 12 sir, mae'r siroedd yn mabwysiadu'r Sioe, ac yn noddi'r Sioe fesul blwyddyn.

Bydd y Llywydd yn dod o'r sir, a nhw sy'n gyfrifol am arwain y gad, a chodi'r arian. Arian sydd yn cael ei ddefnyddio, a'i fuddsoddi yn strwythur ac adeiladau parhaol y maes. Felly ry'n ni yn buddsoddi'r arian sy'n cael ei godi, nid ei wario.

Er enghraifft os edrychwch chi ar y maes heddi ma 'da chi Tŵr Sir Benfro, Neuadd De Morgannwg, Adeilad Caerfyrddin, Dyfed, Porth Môn, Pafiliwn Maldwyn, ystod eang o adeiladau, sy'n dyst i'r gefnogaeth sy'n bodoli yn y siroedd.

Oherwydd y model hwn, mae pob sir yn teimlo eu bod nhw yn berchen ar y Maes. Hwn yw gwir sylfaen ein llwyddiant ni.

Disgrifiad o’r llun,
Porth Môn, adeilad newydd gafodd ei agor yn 2014

Felly hyn sy'n rhoi cysondeb i chi?

Ie, a chysondeb i'r siroedd hefyd. Mae'r 12 sir nawdd yn gwybod o flwyddyn i flwyddyn pwy fydd yn gyfrifol am noddi'r sioe, ac yn deall beth fydd eu cyfrifoldebau.

Dy' ni ddim yn gosod targedau ariannol i bob sir, ond yn hytrach yn gofyn iddyn nhw fabwysiadu prosiect sydd o bwys i'r Gymdeithas fydd yn gwella'r cyfleusterau parhaol ar y Maes.

Penderfynodd Sir Maesyfed ariannu estyniad ar Neuadd Henllan, sef gwesty parhaol ar faes y Sioe.

Roedd hyn yn ein galluogi ni i wella cyfleusterau'r gwesty, yn ei wneud yn fwy deniadol i fwy o bobl, ac yn dod a rhagor o incwm i ni fel Cymdeithas dros y flwyddyn gyfan ac nid dim ond am bedwar diwrnod y Sioe Fawr.

Mae creu incwm tu allan i'r sioe, yn galluogi ni i greu incwm y tu allan i'r nawdd sirol sy'n tynnu'r pwysau bant i ryw raddau.

Disgrifiad o’r llun,
Weithiau, yr unig gyfleuster sydd angen yw coeden

Eleni, Gwent yw'r sir Nawdd, a mae Gwent yn dechrau'r prosiect ceffylau, sef gwella a chodi mwy o stablau. Oherwydd ein bod ni fel bwrdd rheoli'r Gymdeithas yn rhoi prosiectau ger bron y siroedd sydd yn gwella cyfleusterau ac yn torri costau neu'n creu incwm, mae hyn wedyn yn ddeniadol i'r siroedd, sy'n eu gwneud yn fwy parod i godi'r arian.

Disgrifiad o’r llun,
Ffordd arall o dorri costau?

Ydy hyn yn wahanol i fodel y 'Royal Show' yn Stoneleigh er enghraifft?

Alla'i ddim â siarad o brofiad am yr hyn ddigwyddodd i'r Sioe Fawr. Ond un peth ni'n ei wneud yma fel Cymdeithas yng Nghymru yw pontio rhwng gwlad a thref yn effeithiol ond ry' ni hefyd yn pontio rhwng y werin a'r bonedd.

Fues i erioed yn Stoneleigh yn bersonol, ond o'r hyn rwy'n ei ddeall, y farn ymysg rhai pobl oedd ei fod wedi mynd braidd yn elitaidd a'i fod e wedi colli'r cysylltiad rhwng y gymuned amaethyddol ar lawr gwlad.

Mae tua 21,000 o aelodau gyda ni bellach, a ni yna i wrando ac i ymateb i lais ein haelodau. Sioe'r bobol yw'r Sioe Fawr a mae hynny'n amlwg i bawb sy'n dod yma. Mae llawer wedi dweud bod yna naws sioe leol iddi, er ei bod hi'n sioe genedlaethol sy'n denu bron 250,000 o ymwelwyr.

Mae dros 1,000 o wirfoddolwyr yn gweithio gyda ni o flwyddyn i flwyddyn, maen nhw'n magu ffrindiau ac yn dod i nabod y bobl sy'n ymweld â'r Maes.

Disgrifiad o’r llun,
"Sioe'r bobol yw'r Sioe Frenhinol."

Faint o lwyddiant ariannol oedd y Sioe y llynedd?

Roedd Sioe llynedd yn un hynod lwyddiannus, felly roedd trosiant ariannol y Gymdeithas yn £5.8 miliwn, ac roedd ein hincwm o'r Sioe yn rhyw £3.2 miliwn.

Ond mi gostiodd y Sioe bron i £2.7 miliwn iw llwyfannu, sy'n gadael elw o 'chydig dros £500,000 o bunnoedd, fel cyfraniad i'n gorbenion.

Ry'n ni'n ffodus oherwydd y rhan fwyaf o'r amser, mi fyddwn ni'n gwneud elw o gynnal y Sioe.

Does 'na ddim llawer o sioeau sy'n llwyddo i wneud hynny. Rhaid pwysleisio cofiwch na fedrwn ni ddibynnu ar hynny bob blwyddyn.

Mi allai'r tywydd fod yn wael, neu fel yn 2001 roedd yn rhaid canslo'r sioe yn gyfan gwbl oherwydd clwy' traed a'r genau.

Felly mae rhaid i ni gadw llygad ar yr arian a chadw digon wrth gefn rhag ofn bod yn rhaid ysgwyddo colledion.

Ond ydy berchen y safle yn fendith neu'n fwrn yn ariannol?

Gyda chymaint o fuddsoddiadau dros y blynyddoedd o ran adeiladau parhaol, mae cynnal a chadw'r safle yn Llanelwedd yn her ond o droi'r ffocws ar greu adeiladau sydd â defnydd drwy'r flwyddyn ble mae hi'n bosib, mae'n dod â ffynhonnell ariannol gyson drwy'r flwyddyn. Felly, drwy weithredu fel hyn, yn sicr mae'n fendith.

Disgrifiad o’r llun,
Y 'Kings Troop' mewn hast i adael cylch y Sioe y llynedd

Mae'r Sioe wedi tyfu mor fawr erbyn hyn ydi hi'n ymarferol aros ar y safle presennol?

Er bod y maes yn un mawr, dros 150 erw, dyw e hi ddim y mwyaf ym Mhrydain, ond er y cyfyngiadau fe allwn ni ymestyn. Y ffocws nawr yw defnyddio'r tir sydd gyda ni yn well ac yn fwy effeithiol.

Enghraifft o hyn yw'r prosiect ceffylau wnes i sôn amdano gynne. Mae Gwent yn ariannu rhan o hwn. Yn ogystal â'r stablau, un rhan o'r prosiect yw lefelu darn o dir 'North 3' sydd ar hyn o bryd yn cael ei ddefnyddio i barcio cerbydau.

Bydd hyn yn gwella'r defnydd o'r tir. Felly mae'r cyfyngiadau tir yn ein gorfodi ni i edrych yn llawer mwy creadigol ar y defnydd ry'n ni yn ei wneud ohono fe.

Mae Sioe eleni'n agosáu, sut ydych chi'n cysgu?

Gyda'n llygaid ar gau! Rwy'n mynd i'r gwely gyda'm meddwl yn rasio ac yn cofio am bobl sydd angen i mi ffonio neu wahodd ganol nos, felly fi'n e-bostio fy hun ar fy ffôn symudol er mwyn atgoffa fy hun i wneud pethau.

Beth yw'ch uchafbwynt personol chi bob blwyddyn?

Fel mab ffarm, pan fydd eiliad sbâr yn ystod y sioe, a 'does dim llawer o rheini, fe â i am dro i weld y stoc. Defaid a gwartheg yn bennaf, ond yr anifeiliaid sy'n bwysig i mi, ac i nifer eraill yn y Sioe. A diolch am hynny!

Disgrifiad o’r llun,
"Oi! Beth am y geifr?"