Beth yw dyfodol neuaddau Cymraeg?
- Cyhoeddwyd

Gyda dyfodol Neuadd Pantycelyn yn Aberystwyth yn y newyddion yn ddiweddar mae llawer o gwestiynau wedi'u codi am ddyfodol neuaddau preswyl Cymraeg i fyfyrwyr.
Yn gyn-lywydd ar Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor a bellach yn aelod o gabinet Cyngor Gwynedd ac yn bencampwr Plant a Phobl Ifanc y Sir, mae gan Mair Rowlands gryn ddiddordeb yn y pwnc. Fe rannodd Mair ei barn gyda Cymru Fyw:
Mae'r pryderon a'r datblygiadau diweddar am ddyfodol Neuadd Pantycelyn yn Aberystwyth wedi fy atgoffa am y cyfnod y symudodd Neuadd Gymraeg John Morris Jones ym Mangor i leoliad newydd. Yn 2010 y dechreuais ar gyfnod o ddwy flynedd fel llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) a dyma union gyfnod y newid mawr a'r symud i'r myfyrwyr oedd am fyw mewn neuadd Gymraeg yn ninas Mangor.
Does dim amheuaeth bod Neuadd Pantycelyn a Neuadd JMJ wedi gwneud cyfraniad arbennig ym mharhad yr iaith. Mae'r ddwy neuadd wedi galluogi myfyrwyr rhugl a dysgwyr i fyw mewn cymuned uniaith Gymraeg a byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Brwydrodd cenhedlaeth ein rhieni'n galed i sicrhau bod yna neuaddau cyfrwng Cymraeg i'w cael nôl yn y 70au ac mae sicrhau eu parhad wedi dod yn gyfrifoldeb i'n cenhedlaeth ni. Treuliais rai o flynyddoedd gorau fy mywyd yn neuadd JMJ a dwi'n siŵr y byddai nifer o gyn-fyfyrwyr Cymraeg Bangor yn dweud yr un peth.
Nôl yn 2008 y dechreuodd trafodaethau ynglŷn â dyfodol Neuadd JMJ pan ro'n i yn fy ail flwyddyn. Roedd y ffeithiau'n dangos bod nifer y myfyrwyr Cymraeg oedd yn byw yn y neuadd wedi gostwng dros y blynyddoedd a niferoedd cyfrwng Cymraeg ar i lawr - a chyflwr JMJ yn cael peth o'r bai am hynny. Roedd angen wynebu realiti'r sefyllfa.
Roeddem ni'r myfyrwyr yn anhapus iawn am yr ad-leoli gan ein bod wedi cael profiadau cadarnhaol yn y neuadd ac yn meddwl bod cynllun yr adeilad ar Ffordd y Coleg yn un o'r rhesymau am lwyddiant y gymdeithas glòs Gymraeg. Bu cryn anniddigrwydd a phrotestio ond hefyd trafod brwd gydag awdurdodau'r coleg.
Yn y diwedd fe wnaethom gefnogi'r cynllun i ad-leoli JMJ ond gyda nifer o amodau. Roedd pethau wedi dod i'r pen ac angen cartref i'r gymuned Gymraeg mewn adeilad gyda chyfleusterau oedd o leiaf yn gymharol gyda'r hyn oedd gan fyfyrwyr eraill.
Roedd tri opsiwn posib ar gyfer ad-leoli JMJ ac ar ôl i'r Brifysgol ymgynghori gyda'r myfyrwyr, y penderfyniad oedd ad-leoli i adeiladau Tegfan a Bryn Dinas ar safle Ffriddoedd. Sefydlwyd pwyllgor gyda chynrychiolwyr y Brifysgol a'r myfyrwyr i sicrhau bod anghenion y myfyrwyr yn cael eu hystyried yn llawn.
Fe wnaeth y Brifysgol ymrwymiad i adeiladu estyniad rhwng y ddau adeilad i greu un neuadd a gofod cymdeithasol sylweddol gan roi'r cyfle i greu'r un ymdeimlad o gymuned ag yn yr hen JMJ. Byddai'n sicrhau hefyd y byddai swyddfa i Lywydd UMCB yno.
Cadwodd y Brifysgol at ei haddewidion a gwario tua £186,000 ar yr estyniad i'r ystafell gyffredin. Cofiaf bod mewn trafodaethau ynglŷn â lliw y paent ar y wal hyd yn oed!
Rwy'n dal i weithio ym Mhrifysgol Bangor ac o'r farn bod y neuaddau newydd wedi sicrhau bod profiad myfyrwyr Cymraeg eu hiaith a dysgwyr wedi cael ei gyfoethogi'n fawr. Mae'r myfyrwyr Cymraeg sy'n dod i Fangor yn cael cynnig llety o'r ansawdd gorau ac mae'r elfen gymdeithasol a'r gymdeithas Gymraeg glòs yn parhau.
Rhaid cofio bod JMJ wedi bod mewn tair neuadd wahanol cyn hyn felly nid oes iddi'r un hanes ag adeilad eiconig fel Neuadd Pantycelyn.
Mae ymgyrch Achub Pantycleyn wedi cydio yng nghalonnau miloedd o bobl yng Nghymru a thu hwnt ac mae'r myfyrwyr wedi dangos dyfalbarhad. I ryw raddau mae ein cenhedlaeth ni wedi cael llawer o bethau ar blât heb orfod brwydro cymaint â'r cenedlaethau gynt. Mae wedi bod yn galonogol iawn felly gweld y myfyrwyr a'r gymdeithas ehangach mor frwd dros achub Pantycelyn.
Rhaid dweud, fel cyn fyfyriwr dreuliodd ddwy flynedd mewn neuadd breswyl Gymraeg, ei bod yn hawdd iawn hefyd byw yn eich bybl bach Cymraeg eich hun ac anghofio am y gymuned ehangach yn y Brifysgol a thu hwnt.
Felly credaf y dylai myfyrwyr neuaddau preswyl Cymraeg geisio gwneud mwy i hybu'r iaith a'r diwylliant ymhlith myfyrwyr di-Gymraeg a myfyrwyr tramor gan geisio cyffwrdd â phobl y tu allan i furiau'r neuadd.
Mae potensial mawr i fyfyrwyr y neuaddau Cymraeg gydweithio'n agosach gyda'r gymuned leol gan gyfrannu at gynyddu statws a defnydd y Gymraeg yn eu cymunedau.