Hofrenyddion achub: Diwedd cyfnod a phennod newydd
- Cyhoeddwyd

Mae yna newid sylfaenol i wasanaeth chwilio ac achub yng ngogledd Cymru ddydd Mercher, gyda chwmni preifat o America wedi cymryd yr awenau.
Cwmni Bristow Helicopters sydd bellach yn gyfrifol am chwilio ac achub ar y môr ac yn Eryri, wedi iddyn nhw ennill y cytundeb i wneud y gwaith yn lle'r Llu Awyr yn Y Fali.
Fe fydd dau hofrennydd newydd yn cael eu lleoli ym maes awyr Caernarfon yn Ninas Dinlle.
Mae rhai wedi codi cwestiynau am sut fath o wasanaeth y bydd cwmni preifat yn ei ddarparu, ond yn ôl y peilotiaid, fe fydd yr hofrenyddion newydd yn fwy hwylus a hyblyg ar gyfer chwilio am ac achub pobl.
100%
Meddai Dilwyn Williams, Prif Beiriannydd Bristow:
"Mae o'n siom bod y search and rescue yn symud o'r Fali ond dwi'n meddwl y service 'da ni'n rhoi - 'dio ddim yn mynd i newid. Mae'r tîm i gyd yn rhoi 100% i mewn just i gael y contract newydd 'ma i weithio."
Mae diwyg yr hofrenyddion Sikorsky S92 yn wahanol hefyd - lliw coch a gwyn yn lle melyn cyfarwydd peiriannau Sea King yr Awyrlu.
Mae cwmni Bristow yn addo y bydd y criwiau yn yr awyr o fewn chwarter awr i dderbyn galwad - a chan eu bod yng Nghaernarfon yn hytrach nag yn Y Fali ar Ynys Môn , maen nhw'n debygol o gyrraedd y mynyddoedd yn gynt.
Mae tua 600,000 o bobl yn cyrraedd copa'r Wyddfa bob blwyddyn - mynydd prysuraf Prydain - ac mae'r Awyrlu wedi bod yn gyfrifol am y gwaith chwilio ac achub ers dros 60 mlynedd.
Cytundeb 10 mlynedd
Mi fydd gan Bristow saith safle newydd i'w gwasanaethau trwy Brydain.
Mae'r cytundeb, ar ran y llywodraeth a Gwylwyr y Glannau, i barhau am 10 mlynedd ac yn werth £1.6 biliwn.
Mae tri o dimau achub mynydd Eryri wedi bod yn hyfforddi gyda'r hofrennydd newydd dros y misoedd diwetha' - gwirfoddolwyr o Aberglasglyn, Dyffryn Ogwen a Llanberis.
Maen nhw'n gobeithio na ddaw problemau wrth weithio â gwasanaeth sydd wedi ei roi i gwmni preifat.
Yn ôl Gwyn Roberts, o Dîm Achub Mynydd Llanberis:
"Dwi'n deall bod y telerau'n union 'run fath ag o'r blaen ac y byddan nhw'n rhoi'r un gwasanaeth ag o'r blaen felly na, dwi ddim yn disgwyl bydd 'na unrhyw wahaniaeth."
'Rhan o rywbeth mawr'
Mae criw C Squadron yr RAF yn Y Fali yn chwalu - rhai yn aros gyda'r Awyrlu ac ar fin cael eu hanfon i weithio dramor, ac eraill yn gadael yr RAF yn llwyr er mwyn parhau gyda'r gwaith o achub.
Yn eu plith, mae Ed Griffiths a ddywedodd:
"Dwi 'efo'r un bobl - 'da ni'n rhan o rywbeth mawr. Gobeithio, efo'r un bobl yn gwneud yr un job, ond 'efo hofrenyddion newydd, ddylsa fo fod yn wasanaeth lot gwell."
Bydd rhaglen arbennig ar y gwasanaeth newydd, SOS: Yr Wyddfa, yn cael ei darlledu am 21:30 nos Fercher, 1 Gorffennaf ar S4C.
Straeon perthnasol
- 1 Gorffennaf 2015
- 30 Mehefin 2015