Helpu i ymladd yn Syria: Achos tri'n dod i ben yn sydyn
- Cyhoeddwyd

Roedd honiadau bod Aseel Muthana (chwith ar y top) o Gaerdydd wedi teithio i Syria gyda help tri, gan gynnwys Kristen Brekke (ar y dde)
Mae achos tri, gafodd eu cyhuddo o helpu Aseel Muthana, 17 oed o Gaerdydd, i ymladd yn Syria, wedi dod i ben yn sydyn.
Dywedodd yr heddlu y byddai Kristen Brekke, 19 oed o Gaerdydd, Forhad Rahman, 21 o Sir Gaeloyw, ac Adeel Ulhaq, 20 o Sir Nottingham, yn sefyll eu prawf yn y man.
Dechreuodd yr achos yn yr Old Bailey ddydd Gwener ond mae'r Barnwr Rebecca Poulet QC wedi rhyddhau'r rheithgor.
Roedd y tri wedi gwadu cyhuddiad o helpu rhywun i baratoi ar gyfer gweithredoedd terfysgol.