Dyn ifanc yn ysbyty: Rhybudd am gyffur penfeddwol
- Cyhoeddwyd

Dywedodd y mudiad y 'gallai'r cyffur fod yn beryglus'.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi anfon rhybudd am gyffur penfeddwol cyfreithlon wedi i ddyn ifanc orfod mynd i'r ysbyty ar 15 Mehefin.
Dywedodd y mudiad y "gallai'r cyffur fod yn beryglus".
Bu raid i ddyn ifanc fynd i ysbyty yn y gogledd ar 15 Mehefin wedi iddo gymryd MMB-CHMINACA (MDMD-CHMICA).
Mae'r cyffur yn gysylltiedig â chwe marwolaeth yn Ewrop ers Medi 2014, dwy yn Yr Almaen a phedair yn Sweden.
Dywedodd llefarydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Roedd y dyn ifanc yn y gogledd wedi diodde prinder anadlu, poenau yn ei frest, curiad calon afreolaidd, a phenysgafnder."