Powys: Cwmni i reoli canolfannau hamdden
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni nid-er-elw wedi cymryd rheolaeth o holl ganolfannau hamdden Powys.
Bydd cwmni Freedom Leisure yn rheoli 15 o ganolfannau ar draws y sir mwn cytundeb dros gyfnod o 15 mlynedd wrth i Gyngor Powys geisio gwneud arbedion o £20m.
Dywedodd y cynghorydd Graham Brown o Gyngor Powys fod dyfodol darpariaeth hamdden yn y sir wedi ei sicrhau.
Ychwanegodd rheolwr gyfarwyddwr First Leisure, Ivan Horsfall Turner: "Mae'r ystod eang o safleoedd yn rhoi digon o le i gryfhau'r gwasanaethau hamdden...fydd yn manteisio o fuddsoddiad o tua £2.5m".