Ynys Wyth: Dod o hyd i gorff

  • Cyhoeddwyd
Michael DaviesFfynhonnell y llun, Heddlu Hampshire
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Michael Davies ar ei wyliau ar Ynys Wyth pan aeth ar goll

Mae heddlu ar Ynys Wyth sy'n chwilio am Gymro - sydd wedi bod ar goll ar yr ynys ers mis Mai - wedi dod o hyd i gorff.

Roedd Michael Davies, 71 oed o'r Blaenau ym Mlaenau Gwent, wedi bod yn aros mewn gwesty gyda'i wraig pan ddiflannodd.

Dyw'r corff ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol, ond mae Heddlu Hampshire wedi hysbysu teulu Mr Davies o'r datblygiad.

Dywedodd yr heddlu ym mis Mai fod y cwpl wedi teithio i dref Sandown ar yr ynys ar fws.

Ond does neb wedi gweld Mr Davies, oedd yn dioddef o bwysau gwaed uchel, ers oriau mân fore Mercher, 26 Mai.

Dywedodd yr heddlu bod Mr Davies wedi diflannu ar ôl cael swper yng Ngwesty Maria yn Sandown am 21:30, ac roedd delweddau camera cylch cyfyng yn ei ddangos yn hwyrach lai na hanner milltir o'r gwesty.