Cadair Meifod yn creu hanes
- Cyhoeddwyd

Mae Cadair Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau wedi cael ei chyflwyno i'r pwyllgor gwaith lleol yn Y Trallwng.
Eleni mae'r gadair yn creu hanes gan ei bod wedi ei chreu gan y person ieuengaf erioed.
Carwyn Owen, 20, dylunydd a chrefftwr y Gadair, yw'r person ieuengaf erioed i fod yn gyfrifol am greu Cadair ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.
Cafodd ei ddewis gan noddwyr y Gadair, Undeb Amaethwyr Cymru, Cangen Trefaldwyn, ar sail cystadlaethau yn Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc a hefyd y cadeiriau a grewyd ganddo ar gyfer yr eisteddfod honno ac ar gyfer Eisteddfod Powys.
"Cefais fy ysbrydoli gan harddwch naturiol y coedyn a mynyddoedd yn yr ardal, gan stemio a phlygu'r pren er mwyn fy ngalluogi i ail-greu siâp y mynyddoedd yn y Gadair," meddai.
"Roedd hyn yn gyfle i gyfuno'r deunydd traddodiadol gyda ffyrdd newydd o weithio er mwyn creu cynllun modern mewn ffordd sy'n apelio ataf."
"Mae creu Cadair ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn fraint aruthrol, yn enwedig i gynllunydd mor ifanc, ac mae'r prosiect wedi bod yn brofiad arbennig.
"Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn hoffi'r Gadair, ac yn gobeithio hefyd y bydd teilyngdod, ac y bydd y Gadair yn cael lle amlwg yng nghartref y bardd buddugol."
Aeddfedrwydd
Wrth dderbyn y Gadair ar ran y pwyllgor gwaith dywedodd Beryl Vaughan, y Cadeirydd, "Mae'n bleser o'r mwyaf derbyn Cadair mor hardd ar ran y Pwyllgor lleol, ond yn fwy na hynny, rydw i wrth fy modd ein bod ni'n creu hanes yma heno ym Maldwyn a'r Gororau.
"O edrych ar y Gadair hyfryd hon, mae'n anodd credu mai 20 oed yn unig yw Carwyn Owen, gymaint yw aeddfedrwydd a chywreinrwydd ei waith."
Bydd Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yn cael ei chynnal ym Meifod o 1-8 Awst.