Canlyniadau'r Cymry yng Nghynghrair Europa
- Cyhoeddwyd

Y Drenewydd 2-1 Valletta
Llwyddodd Y Drenewydd i guro FC Valletta o Malta o 2-1 yng nghymal cyntaf eu gêm yn rownd gyntaf y Gynghrair Europa.
Luke Boundford roddodd y tîm cartref ar y blaen yn fuan cyn yr egwyl wedi perfformiad cryf gan Y Drenewydd.
Daeth yr ymwelwyr yn ôl gyda 15 munud yn weddill, wrth i Benites da Conceicao sgorio.
Ond Y Drenewydd oedd yn fuddugol, wrth i Jason Oswell sgorio yn y funud olaf.
Differdange 3-1 Y Bala
Mae'r Bala wedi colli cymal cyntaf eu gêm nhw yn erbyn Differdange o Lwcsembwrg o 3-1.
Omar Er Rafik roddodd y tîm cartref ar y blaen, a munudau yn ddiweddarach fe basiodd i Gauthier Caron allu dyblu'r fantais.
Roedd hi'n 3-0 wrth i Dejvid Sinai rwydo gyda chymorth y postyn, ond fe wnaeth Ian Sheridan lwyddo i sgorio un i'r ymwelwyr.
Cafodd Mile Hayes ei yrru o'r cae yn hwyr yn y gêm, ar ôl cael ei ail gerdyn melyn.
Airbus UK Brychdyn 1-3 Lokomotiva Zagreb
Aeth Lokomotiva Zagreb o Groatia ar ei hôl hi yn erbyn Airbus cyn sgorio tair gôl i guro'r Cymry ar gae Nantporth Bangor.
Roedd Airbus ar y blaen erbyn yr egwyl wrth i Wayne Riley sgorio wedi 28 munud.
Ond ar ôl i Damir Sovsic sgorio gol gyntaf yr ymwelwyr, sgoriodd Mirko Maric a Marko Kolar i sicrhau'r fuddugoliaeth.
Llwyddodd golwr Airbus, James Coates i arbed cic o'r smotyn gan Sovsic yn hwyr yn y gêm.