Addysg Gymraeg: Cyngor i ailystyried

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Bro Alun
Disgrifiad o’r llun,
Mae cyngor wrecsam am ailystyried eu polisi mynediad i ysgolion y sir

Mae cyngor Wrecsam wedi cadarnhau ei fod am edrych unwaith eto ar ei 'bolisi mynediad' oherwydd cwynion gan rieni fod prinder lle ar gyfer plant sydd am gael addysg cyfrwng Cymraeg.

Yn ddiweddar fe wnaeth 750 o bobl arwyddo deiseb yn cwyno am brinder llefydd mewn ysgol Gymraeg newydd sydd wedi ei chodi yn ardal Gwersyllt.

Yn ôl ymgyrchwyr dim ond pump o lefydd sydd ar ôl ledled y sir ar gyfer dosbarthiadau derbyn yn y chwe ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg.

Dywedodd y cynghorydd Michael Williams, sydd â chyfrifoldeb am addysg ar gabinet Cyngor Wrecsam: "Bydd cais i adolygu polisi mynediad presennol y cyngor yn cael ei gyflwyno i aelodau etholedig y cyngor yn y cyfarfod nesaf o'r pwyllgor craffu dysgu gydol oes."

Bydd y pwyllgor yn cwrdd nesaf ar Orffennaf 16.

Doedd y cyngor ddim am ymhelaethu ar eu hopsiynau.

Yn ôl Ymgyrchwyr Dros Addysg Gymraeg Wrecsam mae'r sefyllfa bresennol yn annerbyniol gan fod rhai teuluoedd yn wynebu gorfod mynd a brodyr a chwiorydd i ysgolion gwahanol.

Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Ysgol Bro Alun ei hagor yn 2013

'Prinder lle'

Dywedodd Rosalyn Davies: "Yr unig lefydd gwag ar hyn o bryd yw'r pump sydd ar gael yn Ysgol Bodhyfryd yn ardal Hightown, sydd i'r de o ganol y dref. "

Cafodd Ysgol Bro Alun ei hagor yng Ngwersyllt, pentre i'r gogledd o Wrecsam, yn 2013 gyda lle i 210 o blant rhwng 3 ac 11 oed.

Yn ôl Ms Davies mae 20 o blant wedi methu a chael lle yn yr ysgol "er gwaethaf y ffaith ei bod yn ysgol newydd."

Dywedodd Eleri Roberts o ardal Brynhyfryd ac un o'r rhieni sy'n cael ei heffeithio gan y sefyllfa bresennol: "Rwy'n credu bod y cyngor yn ailfeddwl eu safiad blaenorol - ac mae hynny i'w groesawu.

"Rydym ni o'r farn nad yw'r cyngor yn cyd-fynd â chynllun ei hun o ran darpariaeth addysg Gymraeg.

"Rydym yn gwybod fod yna rieni sydd am gael addysg Gymraeg i'w plant ond eu bod yn byw yn rhy bell i ffwrdd i gael eu hystyried, ac o ganlyniad maent wedi dewis addysg cyfrwng Saesneg.

"Mae'n glir hefyd nad yw gweinidog addysg Cymru yn hapus gyda'r sefyllfa bresennol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y gweinidog addysg wedi ysgrifennu ar awdurdod lleol Wrecsam yn annog iddynt ddarparu llefydd ychwanegol er mwyn bodloni'r galw ar gyfer addysg Gymraeg.

"Yn yr hir dymor mae'r Gweinidog wedi galw ar y Cyngor i fabwysiadu proses sy'n gwella'r modd mae data yn cael ei gasglu ynglŷn â'r galw am addysg Gymraeg - a hynny er mwyn sicrhau bod digon o lefydd ar gael yn y dyfodol."