Cymhelliant ariannol i ddenu meddygon teulu?
- Cyhoeddwyd

Fe ddylai meddygon teulu a chynllunwyr iechyd ddarganfod yn ddiweddarach yn y mis os yw Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar alwad am gymhelliant ariannol i ddenu doctoriaid i feddygfeydd mewn mannau ble mae recriwtio yn broblem.
Yn gynharach y flwyddyn yma, fe wnaeth y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford dderbyn naw cynllun gan bwyllgor iechyd y Cynulliad i wella hyfforddiant, recriwtio a chadw meddygon teulu.
Yn ôl pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, yr Athro John Bligh, mae'n ddull sydd wedi cael ei ddefnyddio fan arall, gyda chanlyniadau cymysg.
"Byddai'n well gen i ddewis doctoriaid i weithio mewn ardal am eu bod eisiau gweithio yno," meddai.
Mae'r nifer o feddygon teulu yng Nghymru wedi cynyddu 10% dros y degawd diwethaf, ond mae'r boblogaeth yn heneiddio ac mae llawer o feddygon teulu yn delio â llwyth gwaith cynyddol.
Dywedodd Dr Paul Myers o Goleg Brenhinol Meddygon Teulu yng Nghymru: "Rwy'n siarad gyda llawer o feddygon teulu sy'n nesáu at ddiwedd eu gyrfa sy'n dweud nad ydyn nhw'n gallu disgwyl i orffen."
Mae Cymdeithas Feddygol Prydain yn amcangyfrif bod rhaid i Gymru recriwtio o leiaf 200 o feddygon teulu pob blwyddyn i lenwi swyddi'r rhai sy'n ymddeol neu'n symud i weithio rhan-amser, ond y rhan fwyaf o flynyddoedd, dyw'r cwota presennol o 136 o lefydd hyfforddi ddim yn cael eu llenwi.
Fe wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gymryd rheolaeth o ddwy feddygfa yn ddiweddar wedi iddyn nhw gael trafferth yn recriwtio meddygon i gymryd lle rhai oedd yn ymddeol.
'Nid yr unig ateb'
Ond dydi prif weithredwr gofal cynradd y bwrdd iechyd, Catherine Davies, ddim yn meddwl mai cymhelliant yn unig yw'r ateb.
"Mae hi am gynnig datblygu yn eu gyrfaoedd," meddai.
"Rydyn ni eisiau denu'r unigolion mwyaf disglair, y gorau. Er bod cymhelliant yn arf defnyddiol i'w gael, nid dyma'r unig ateb."
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Ruth Hussey, yn derbyn bod ardaloedd o Gymru ble mae recriwtio meddygon teulu yn sialens.
Dywedodd Ms Hussey y bydd gweinidogion yn cyhoeddi cynllun ar gyfer gweithlu gofal cynradd yn ddiweddarach yn y mis, fydd yn canolbwyntio ar y sialensiau o adeiladu gweithlu cynaliadwy.
Eye on Wales, BBC Radio Wales. 12:30 dydd Sul, 5 Gorffennaf.